2016 Rhif 55 (Cy. 25)

CYNLLUNIO GWLAD A THREF, CYMRU

Gorchymyn Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Gweithdrefn) (Cymru) 2016

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae datblygiad yng Nghymru yn ddatblygiad o arwyddocâd cenedlaethol os yw’n bodloni’r meini prawf a bennir mewn rheoliadau([1]) neu os pennir ei fod yn ddatblygiad o’r fath yn y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol([2]).

Mae’r Gorchymyn hwn yn gwneud darpariaeth ar gyfer y modd y bydd Gweinidogion Cymru yn ymdrin â cheisiadau am ganiatâd cynllunio ar gyfer datblygiad o’r fath.

Mae’r Gorchymyn hwn yn cynnwys darpariaeth mewn perthynas â—

-       Hysbysu ynghylch datblygiad arfaethedig a derbyn hysbysiadau o’r fath gan Weinidogion Gymru (erthyglau 5 a 6);

-       Cyhoeddusrwydd ac ymgynghori cyn ymgeisio (erthyglau 7 i 11);

-       Gofynion cyffredinol sy’n gymwys ynglŷn â gwneud cais (erthygl 12);

-       Derbyn ceisiadau gan Weinidogion Cymru (erthygl 15);

-       Gofynion sy’n gymwys ynglŷn â rhoi hysbysiadau cyn gwneud cais (erthygl 16);

-       Gofynion cyhoeddusrwydd sy’n gymwys ar ôl gwneud cais (erthyglau 18 a 19);

-       Gofynion ynglŷn â’r gofrestr o geisiadau a gynhelir gan awdurdodau cynllunio lleol (erthygl 20);

-       Adroddiadau ar yr effaith leol (erthyglau 25 a 26);

-       Amrywio ceisiadau (erthygl 27);

-       Hysbysiad sydd i’w roi gan Weinidogion Cymru ynglŷn â’u penderfyniad ar geisiadau, a diwygio hysbysiadau o’r fath (erthyglau 29 a 30);

-       Gofynion ynglŷn â hysbysu ynghylch cychwyn datblygiad ac arddangos hysbysiadau (erthygl 31).

Mae asesiad effaith wedi ei baratoi mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. Mae copïau ohono ar gael gan Is-adran Gynllunio Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac ar wefan Llywodraeth Cymru yn www.cymru.gov.uk.

 


2016 Rhif 55 (Cy. 25)

CYNLLUNIO GWLAD A THREF, CYMRU

Gorchymyn Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Gweithdrefn) (Cymru) 2016

Gwnaed                                27 Ionawr 2016

Gosodwyd gerbron Cynulliad

 Cenedlaethol Cymru             2 Chwefror 2016

Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1                 

CYNNWYS

RHAN 1

Rhagarweiniol

1.       Enwi, cychwyn a chymhwyso

2.       Dehongli

3.       Cyfathrebiadau electronig

4.       Cyfnod sylwadau

 

 RHAN 2

Cyn gwneud cais

5.       Hysbysiad o ddatblygiad arfaethedig

6.       Derbyn hysbysiad o ddatblygiad arfaethedig

7.       Gofyniad i gynnal ymgynghoriad cyn gwneud cais

8.       Cyhoeddusrwydd cyn gwneud cais am ganiatâd cynllunio

9.       Ymgynghori cyn gwneud cais am ganiatâd cynllunio

10.     Dyletswydd i ymateb i ymgynghoriad cyn-ymgeisio: ymgyngoreion arbenigol

11.     Adroddiadau ar ymgynghoriad cyn-ymgeisio

 

RHAN 3

Ceisiadau

12.     Ceisiadau: gofynion cyffredinol

13.     Ceisiadau mewn perthynas â thir y Goron

14.     Datganiadau dylunio a mynediad

15.     Derbyn ceisiadau

16.     Hysbysiadau o geisiadau am ganiatâd cynllunio

17.     Tystysgrifau mewn cysylltiad â hysbysiadau o geisiadau

18.     Cyhoeddusrwydd i geisiadau am ganiatâd cynllunio: Gweinidogion Cymru

19.     Cyhoeddusrwydd i geisiadau am ganiatâd cynllunio: awdurdod cynllunio lleol

20.     Cofrestr ceisiadau

21.     Sylwadau a geir gan yr awdurdod cynllunio lleol mewn cysylltiad â cheisiadau

 

RHAN 4

Ymgyngoriadau cyn rhoi caniatâd

22.     Dyletswydd i ymgynghori cyn rhoi caniatâd

23.     Dyletswydd i ymateb i ymgynghoriad

24.     Dyletswydd i ymateb i ymgynghoriad: adroddiadau blynyddol

 

RHAN 5

Adroddiadau

25.     Adroddiadau ar yr effaith leol

26.     Adroddiadau gwirfoddol ar yr effaith leol

 

RHAN 6

Amrywio ceisiadau

27.     Gweithdrefn mewn cysylltiad ag amrywio ceisiadau

 

RHAN 7

Penderfynu a hysbysu ynghylch cychwyn datblygiad

28.     Sylwadau sydd i’w cymryd i ystyriaeth

29.     Hysbysiad ysgrifenedig o benderfyniad mewn perthynas â chais

30.     Hysbysiad diwygiedig o benderfyniad i roi caniatâd cynllunio

31.     Hysbysiad o gychwyn datblygiad ac arddangos hysbysiad

 

RHAN 8

Diwygio Gorchymyn 2012

32.     Diwygio Gorchymyn 2012

         

ATODLEN 1 —   Cyhoeddusrwydd ac ymgynghori cyn gwneud cais am ganiatâd cynllunio

ATODLEN 2 —   Ymgynghori cyn gwneud cais am ganiatâd cynllunio

ATODLEN 3 —   Hysbysiadau o dan erthygl 16

ATODLEN 4 —   Cyhoeddusrwydd i geisiadau

ATODLEN 5 —   Dyletswydd i ymgynghori cyn rhoi caniatâd

ATODLEN 6 —   Hysbysiad o gychwyn datblygiad ac arddangos hysbysiad

ATODLEN 7 —   Hysbysiad i’w arddangos drwy gydol yr amser tra cyflawnir y datblygiad

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 59 a 61 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990([3]) ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy([4]), drwy arfer y pwerau a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan
adrannau 62, 65, 69 a 71 o’r Ddeddf honno([5]) sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy (fel y’u cymhwysir gydag addasiadau gan Orchymyn Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Cymhwyso Deddfiadau) (Cymru) 2016)([6]), drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt hwy gan adrannau 61Z, 62E, 62I, 62J, 62K, 62L, 62R, 71ZA, 71ZB a 333 o’r Ddeddf honno([7]) a thrwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 54 o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004([8]) ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy([9]), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

RHAN 1

Rhagarweiniol

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Gweithdrefn) (Cymru) 2016 a daw i rym yn union wedi i’r Gorchymyn Cymhwyso Deddfiadau ddod i rym.

(2) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys—

(a)     pan wneir cais i Weinidogion Cymru o dan adran 62D o Ddeddf 1990 (datblygiadau o arwyddocâd cenedlaethol: ceisiadau sydd i’w gwneud i Weinidogion Cymru)([10]); neu

(b)     pan fo cais o’r fath yn yr arfaeth.

(3)  Pan fo’r tir yn ddarostyngedig i orchymyn datblygu arbennig, pa un a wnaed y gorchymyn hwnnw cyn neu ar ôl cychwyn y Gorchymyn hwn, ni fydd y Gorchymyn hwn yn gymwys i’r tir hwnnw ac eithrio i’r graddau, ac yn ddarostyngedig i’r cyfryw addasiadau, a bennir yn y gorchymyn datblygu arbennig([11]).

Dehongli

2. Yn y Gorchymyn hwn—

mae “adeilad” (“building”) yn cynnwys unrhyw adeiledd neu adeiladwaith, ac unrhyw ran o adeilad, fel y’i diffinnir yn yr erthygl hon, ond nid yw’n cynnwys unrhyw beiriannau na pheirianwaith nac unrhyw adeiledd sydd o natur peiriannau neu beirianwaith;

ystyr “awdurdod cynllunio lleol” (“local planning authority”), ac eithrio yn achos erthyglau 25 a 26, yw’r awdurdod cynllunio lleol y byddid, oni bai am adran 62D o Ddeddf 1990, yn gwneud y cais iddo;

ystyr “ceisydd” (“applicant”) yw person sydd naill ai’n bwriadu gwneud cais neu wedi gwneud y cyfryw gais;

mae “codi” (“erection”), mewn perthynas ag adeiladau fel y’u diffinnir yn yr erthygl hon, yn cynnwys estyn, newid neu ailgodi;

mae i “cyfarwyddyd sgrinio” (“screening direction”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 2(1) o’r Rheoliadau AEA;

mae i “cyfathrebiad electronig” yr ystyr a roddir i “electronic communication” yn adran 15(1) o Ddeddf Cyfathrebu Electronig 2000 (dehongli cyffredinol)([12]);

mae i “cyfeiriad” (“address”) yr ystyr a roddir yn erthygl 3(1)(a);

mae i “cyfnod sylwadau” (“representation period”) yr ystyr a roddir yn erthygl 4;

mae i “datganiad amgylcheddol” (“environmental statement”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 2(1) o’r Rheoliadau AEA;

mae i “datganiad dylunio a mynediad” (“design and access statement”) yr ystyr a roddir yn erthygl 14(1);

ystyr “Deddf 1990” (“1990 Act”) yw Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990;

ystyr “Deddf 2004” (“the 2004 Act”) yw Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004;

ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”) yw diwrnod nad yw’n ddydd Sadwrn, yn ddydd Sul, yn Ŵyl Banc nac yn ddydd gŵyl gyhoeddus arall yng Nghymru;

ystyr “drwy arddangos ar y safle” (“by site display”) yw drwy osod yr hysbysiad ynghlwm yn gadarn wrth wrthrych, a’i leoli a’i ddangos mewn modd sy'n caniatáu i aelodau'r cyhoedd weld yr hysbysiad a'i ddarllen yn rhwydd;

ystyr “Gorchymyn 2012” (“the 2012 Order”) yw Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012([13]);

ystyr “y Gorchymyn Cymhwyso Deddfiadau” (“the Application of Enactments Order”) yw Gorchymyn Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Cymhwyso Deddfiadau) (Cymru) 2016([14]);

ystyr “gweithrediadau mwyngloddio” (“mining operations”) yw cloddio a gweithio mwynau mewn, ar, neu o dan y tir, pa un ai drwy weithio ar yr wyneb neu'n danddaearol;

mae i “hysbysiad o ddatblygiad arfaethedig” (“notification of proposed development”) yr ystyr a roddir yn erthygl 5(2);

ystyr “y Rheoliadau AEA” (“the EIA Regulations”) yw Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) 2016([15])

ystyr “ward etholiadol” (“electoral ward”) yw unrhyw ardal yr etholir drosti gynghorydd i gyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol;

ystyr “ymgynghorai arbenigol” (“specialist consultee”), mewn amgylchiadau pan fo’r datblygiad([16]) y mae’r cais neu’r cais arfaethedig yn ymwneud ag ef yn dod o fewn categori a nodir yn y Tabl yn Atodlen 5, yw’r awdurdod, y person neu’r corff a grybwyllir mewn perthynas â’r categori hwnnw; ac

ystyr “ymgynghorai cymunedol” (“community consultee”) yw—

(a)     pob cynghorydd cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol sy’n cynrychioli ward etholiadol y lleolir ynddi dir y mae’r cais arfaethedig yn ymwneud ag ef; a

(b)     pob cyngor cymuned y lleolir yn ei ardal dir y mae’r cais arfaethedig yn ymwneud ag ef.

Cyfathrebiadau electronig

3.—(1) Yn y Gorchymyn hwn, ac mewn perthynas â defnyddio cyfathrebiadau electronig at unrhyw ddiben o’r Gorchymyn hwn y gellir ei gyflawni yn electronig—

(a)     mae’r ymadrodd “cyfeiriad” (“address”) yn cynnwys unrhyw rif neu gyfeiriad a ddefnyddir at ddibenion cyfathrebiadau o’r fath;

(b)     mae cyfeiriadau at hysbysiadau, sylwadau neu ddogfennau eraill, neu at gopïau o ddogfennau o’r fath, yn cynnwys cyfeiriadau at y cyfryw ddogfennau neu gopïau ohonynt mewn ffurf electronig.

(2) Mae paragraffau (3) i (7) yn gymwys pan ddefnyddir cyfathrebiad electronig gan berson at y diben o gyflawni unrhyw ofyniad yn y Gorchymyn hwn i roi neu anfon unrhyw ddatganiad, hysbysiad neu ddogfen arall at unrhyw berson arall (“y derbynnydd”).

(3) Ystyrir bod y gofyniad wedi ei gyflawni pan fo’r hysbysiad neu ddogfen arall a drawsyrrir ar ffurf cyfathrebiad electronig yn ddogfen—

(a)     y gall y derbynnydd gael mynediad iddi;

(b)     sy’n ddarllenadwy ym mhob modd perthnasol; ac

(c)     sy’n ddigon parhaol i gyfeirio ati yn ddiweddarach.

(4) Ym mharagraff (3), ystyr “darllenadwy ym mhob modd perthnasol” (“legible in all material respects”) yw bod yr wybodaeth a gynhwysir yn yr hysbysiad neu ddogfen arall ar gael i’r derbynnydd i’r un graddau, o leiaf, ag y byddai pe bai’r wybodaeth wedi ei hanfon neu ei rhoi gan ddefnyddio dogfen brintiedig.

(5) Os yw derbynnydd yn cael y cyfathrebiad electronig y tu allan i oriau busnes y derbynnydd, ystyrir ei fod wedi cael y cyfathrebiad ar y diwrnod gwaith nesaf.

(6) Mae gofyniad yn y Gorchymyn hwn, y dylai unrhyw ddogfen fod mewn ysgrifen, wedi ei gyflawni pan fo’r ddogfen honno’n bodloni’r criteria ym mharagraff (3), a rhaid dehongli “ysgrifenedig” (“written”) ac ymadroddion cytras yn unol â hynny.

(7) Ac eithrio pan ofynnir yn benodol am gopi caled, bodlonir unrhyw ofyniad yn y Gorchymyn hwn i anfon mwy nag un copi o ddatganiad neu ddogfen arall os anfonir un copi yn unig o’r datganiad neu ddogfen arall mewn ffurf electronig.

Cyfnod sylwadau

4.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), y “cyfnod sylwadau” (“representation period”) yw’r cyfnod o 5 wythnos sy’n dechrau gyda’r diwrnod pan fo Gweinidogion Cymru yn rhoi hysbysiad yn unol ag erthygl 15(2) eu bod yn derbyn cais.

(2) Caiff Gweinidogion Cymru, mewn unrhyw achos penodol, roi cyfarwyddyd sy’n estyn y cyfnod sylwadau.

RHAN 2

Cyn gwneud cais

Hysbysiad o ddatblygiad arfaethedig

5.—(1) Rhaid i geisydd hysbysu Gweinidogion Cymru a’r awdurdod cynllunio lleol ynghylch cais arfaethedig, yn unol â’r darpariaethau canlynol o’r erthygl hon.

(2) Rhaid i’r hysbysiad (“hysbysiad o ddatblygiad arfaethedig”) (“notification of proposed development”) gynnwys y canlynol—

(a)     y ffurflen a gyhoeddwyd at y diben hwn gan Weinidogion Cymru (neu ffurflen sydd, o ran sylwedd, yn cael yr un effaith), gan gynnwys y manylion a bennir neu y cyfeirir atynt yn y ffurflen;

(b)     plan sy’n galluogi adnabod y tir y mae’r cais yn ymwneud ag ef; ac

(c)     naill ai—

                           (i)    datganiad yn cadarnhau y darperir datganiad amgylcheddol; neu

                         (ii)     cyfarwyddyd sgrinio.

(3) Rhaid cyflwyno hysbysiad o’r fath ynghyd ag unrhyw ffi y mae’n ofynnol ei thalu mewn perthynas â rhoi hysbysiad o’r fath.

Derbyn hysbysiad o ddatblygiad arfaethedig

6.—(1) Pan fo ceisydd yn rhoi hysbysiad i Weinidogion Cymru ynghylch cais arfaethedig yn unol ag erthygl 5, rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r ceisydd a’r awdurdod cynllunio lleol eu bod wedi derbyn yr hysbysiad hwnnw, yn unol â darpariaethau canlynol yr erthygl hon.

(2) Rhaid iddynt hysbysu felly mewn ysgrifen o fewn 10 diwrnod gwaith, sy’n dechrau gyda’r diwrnod y mae Gweinidogion Cymru yn cael yr hysbysiad (neu pa bynnag gyfnod hwy y caiff Gweinidogion Cymru ei bennu mewn unrhyw achos penodol).

(3) Pan fo Gweinidogion Cymru wedi hysbysu felly yn unol â’r erthygl hon, a’r ceisydd heb wneud cais o fewn y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau gyda’r dyddiad y rhoddwyd yr hysbysiad, ystyrir bod yr hysbysiad wedi darfod, ac mewn amgylchiadau o’r fath rhaid i’r ceisydd roi hysbysiad newydd o ddatblygiad arfaethedig yn unol ag erthygl 5, cyn y caniateir gwneud unrhyw gais.

(4) Pan fo Gweinidogion Cymru o’r farn eu bod wedi cael hysbysiad o ddatblygiad arfaethedig nad yw’n cydymffurfio ag erthygl 5, rhaid iddynt, o fewn cyfnod o 10 diwrnod gwaith, sy’n dechrau gyda’r diwrnod y cawsant yr hysbysiad (neu pa bynnag gyfnod hwy y caiff Gweinidogion Cymru ei bennu mewn unrhyw achos penodol), roi gwybod i’r canlynol mewn ysgrifen nad yw’r cyfryw hysbysiad wedi ei dderbyn—

(a)     y ceisydd;

(b)     yr awdurdod cynllunio lleol; ac

(c)     unrhyw bersonau eraill a ystyrir yn briodol gan Weinidogion Cymru.

Gofyniad i gynnal ymgynghoriad cyn gwneud cais

7. Mae datblygiad o arwyddocâd cenedlaethol([17]) wedi ei bennu at ddibenion adran 61Z o Ddeddf 1990 (Cymru: gofyniad i gynnal ymgynghoriad cyn gwneud cais).

Cyhoeddusrwydd cyn gwneud cais am ganiatâd cynllunio

8.—(1) Rhaid i’r ceisydd roi cyhoeddusrwydd i’r cais arfaethedig drwy—

(a)     rhoi hysbysiad gofynnol—

                           (i)    drwy ei arddangos ar y safle, mewn o leiaf un man ar neu gerllaw’r tir y mae’r cais arfaethedig yn ymwneud ag ef, am gyfnod o ddim llai na 42 diwrnod;

                         (ii)    drwy ysgrifennu at berchennog neu feddiannydd unrhyw dir sy’n cydffinio â’r tir y mae’r cais arfaethedig yn ymwneud ag ef: a

                       (iii)    drwy gyhoeddi’r hysbysiad mewn papur newydd sy’n cylchredeg yn y gymdogaeth y lleolir ynddi’r tir y mae’r cais arfaethedig yn ymwneud ag ef; a

(b)     cyhoeddi’r wybodaeth ganlynol ar wefan a gynhelir gan y ceisydd, am gyfnod o ddim llai na 42 diwrnod sy’n dechrau gyda phob un o’r diwrnodau y rhoddir pob un o’r hysbysiadau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (a) neu erthygl 9(2)—

                           (i)    y ffurflen gais ddrafft a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru o dan erthygl 12(1)(a) (neu ffurflen sydd, o ran sylwedd, yn cael yr un effaith), gan gynnwys y manylion a bennir neu y cyfeirir atynt yn y ffurflen;

                         (ii)    plan sy’n galluogi adnabod y tir y mae’r cais arfaethedig yn ymwneud ag ef;

                       (iii)    unrhyw blaniau, lluniadau a gwybodaeth arall sy’n angenrheidiol er mwyn disgrifio’r datblygiad sy’n destun y cais arfaethedig;

                        (iv)    copi o’r hysbysiad sy’n ofynnol gan erthygl 6 ac nad yw wedi darfod o dan baragraff (3) o’r erthygl honno;

                          (v)    y datganiad dylunio a mynediad sy’n ofynnol gan erthygl 14;

                        (vi)     yn ddarostyngedig i erthygl 12(3), y manylion neu’r dystiolaeth sy’n ofynnol gan Weinidogion Cymru o dan adran 62(3) o Ddeddf 1990 (ceisiadau am ganiatâd cynllunio)([18]);

                      (vii)    pan fo’n gymwys, datganiad y cyfeirir ato fel y datganiad amgylcheddol ar gyfer y datblygiad arfaethedig; ac

                    (viii)    datganiad ysgrifenedig ynghylch unrhyw gydsyniad([19]) sy’n gysylltiedig â’r cais arfaethedig ([20]) ac y tybia’r ceisydd fod penderfyniad ar y cydsyniad hwnnw i gael ei wneud, neu y dylid ei wneud, gan Weinidogion Cymru, ynghyd â’r ffurflen gais ddrafft a’r dogfennau sy’n gysylltiedig â phob cydsyniad o’r fath.

(2) Rhaid i’r ceisydd fod wedi cydymffurfio â pharagraff (1) cyn cyflwyno cais.

(3) Rhaid i unrhyw blaniau neu luniadau y mae paragraff (1)(b)(ii) neu (iii) yn gwneud yn ofynnol eu darparu fod wedi eu lluniadu ar raddfa a nodir gan y ceisydd, ac yn achos planiau rhaid dangos cyfeiriad y gogledd.

(4) Pan fo’r hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(a)(i), heb unrhyw fwriad gan y ceisydd na bai arno, yn cael ei dynnu ymaith, ei guddio neu ei ddifwyno cyn bo’r cyfnod o 42 diwrnod wedi dod i ben, trinnir y ceisydd fel pe bai wedi cydymffurfio â gofynion y paragraff perthnasol os yw’r ceisydd wedi cymryd camau rhesymol i ddiogelu’r hysbysiad ac, os oes angen, ei amnewid.

(5) Yn yr erthygl hon, ystyr “hysbysiad gofynnol” (“requisite notice”) yw hysbysiad yn y ffurf a nodir yn Atodlen 1 neu ffurf sydd, o ran sylwedd, yn cael yr un effaith.

Ymgynghori cyn gwneud cais am ganiatâd cynllunio

9.—(1) Mae’r personau neu ddisgrifiadau o bersonau canlynol wedi eu pennu at ddibenion adran 61Z(4) o Ddeddf 1990—

(a)     unrhyw ymgynghorai cymunedol;

(b)     unrhyw ymgynghorai arbenigol; ac

(c)     unrhyw berson perthnasol([21]).

(2) Pan yw’n ofynnol bod ceisydd yn ymgynghori ag ymgynghorai cymunedol neu berson perthnasol, rhaid i’r ceisydd roi i’r ymgynghorai cymunedol neu berson perthnasol hysbysiad gofynnol ysgrifenedig o’r cais arfaethedig.

(3) Pan yw’n ofynnol bod ceisydd yn ymgynghori ag ymgynghorai arbenigol, rhaid i’r ceisydd roi i’r ymgynghorai arbenigol hysbysiad gofynnol ysgrifenedig o’r cais arfaethedig ac amgáu pob un o’r dogfennau y cyfeirir atynt yn erthygl 8(1)(b) neu ddarparu dolen i wefan lle y gellir gweld y dogfennau hynny.

(4) Rhaid i’r ceisydd fod wedi cydymffurfio â pharagraffau (2) a (3) ac wedi rhoi cyfle i’r ymgynghorai arbenigol ymateb yn unol ag erthygl 10(1) cyn cyflwyno cais.

(5) Yn yr erthygl hon, ystyr “hysbysiad gofynnol” (“requisite notice”) yw—

(a)     mewn perthynas ag ymgynghorai cymunedol neu berson perthnasol, hysbysiad yn y ffurf briodol a nodir yn Atodlen 1; a

(b)     mewn perthynas ag ymgynghorai arbenigol, hysbysiad yn y ffurf briodol a nodir yn Atodlen 2,

neu ffurf sydd, o ran sylwedd, yn cael yr un effaith.

Dyletswydd i ymateb i ymgynghoriad cyn-ymgeisio: ymgyngoreion arbenigol

10.—(1) Rhaid i ymgynghorai arbenigol, yr ymgynghorwyd ag ef yn unol â darpariaethau adran 61Z(4) o Ddeddf 1990, ddarparu ymateb o sylwedd o fewn cyfnod o 42 diwrnod sy’n dechrau gyda’r diwrnod y rhoddir yr hysbysiad y cyfeirir ato yn erthygl 9(3), neu pa bynnag gyfnod arall a gytunir mewn ysgrifen rhwng yr ymgynghorai arbenigol a’r ceisydd.

(2) At ddibenion yr erthygl hon, ymateb o sylwedd yw ymateb sydd yn—

(a)     datgan nad oes gan yr ymgynghorai arbenigol unrhyw sylw i’w wneud;

(b)     datgan nad oes gan yr ymgynghorai arbenigol wrthwynebiad i’r datblygiad arfaethedig ac yn cyfeirio’r ceisydd at y cyngor sefydlog cyfredol gan yr ymgynghorai arbenigol ar destun yr ymgynghoriad;

(c)     rhoi gwybod i’r ceisydd am unrhyw bryderon a ganfuwyd ynglŷn â’r datblygiad arfaethedig a sut y gellir mynd i’r afael â’r pryderon hynny; neu

(d)     rhoi gwybod i’r ceisydd fod gan yr ymgynghorai arbenigol bryderon ac y byddai’n gwrthwynebu cais am ganiatâd cynllunio a wneid ar yr un telerau neu delerau o’r un sylwedd, ac yn nodi’r rhesymau am y gwrthwynebiadau hynny.

Adroddiadau ar ymgynghoriad cyn-ymgeisio

11.—(1) Pan fo ceisydd yn cyflwyno cais i Weinidogion Cymru yn unol ag erthygl 12, rhaid anfon ynghyd â’r cais adroddiad ar yr ymgynghoriad cyn-ymgeisio, sy’n rhoi manylion o’r canlynol—

(a)     sut y cydymffurfiodd y ceisydd ag adran 61Z o Ddeddf 1990;

(b)     unrhyw ymateb i’r ymgynghoriad a gafwyd gan bersonau yr ymgynghorwyd â hwy o dan adran 61Z(3) neu (4) o Ddeddf 1990; ac

(c)     yr ystyriaeth a roddwyd i’r ymatebion hynny.

(2) Rhaid i’r adroddiad ar yr ymgynghoriad cyn-ymgeisio gynnwys—

(a)     copi o’r hysbysiad y cyfeirir ato yn erthygl 8(1)(a)(i);

(b)     datganiad i’r perwyl bod yr hysbysiad y cyfeirir ato yn erthygl 8(1)(a)(i) wedi ei arddangos yn unol â gofynion yr erthygl honno;

(c)     rhestr o gyfeiriadau’r personau y rhoddwyd hysbysiad o’r cais arfaethedig iddynt yn unol ag erthygl 8(1)(a)(ii) a chopi o’r hysbysiad a roddwyd i’r cyfryw bersonau;

(d)     copi o’r cyhoeddiad y cyfeirir ato yn erthygl 8(1)(a)(iii);

(e)     datganiad i’r perwyl bod y ceisydd wedi cydymffurfio â’r gofynion cyhoeddi yn erthygl 8(1)(b);

(f)      copïau o’r holl hysbysiadau a roddwyd i ymgyngoreion cymunedol, personau perthnasol ac ymgyngoreion arbenigol yn unol ag erthyglau 9(2) a 9(3);

(g)     crynodeb o’r holl faterion a godwyd gan unrhyw berson a hysbyswyd ynghylch y cais arfaethedig yn unol ag adran 61Z(3) o Ddeddf 1990 ac erthyglau 8 a 9(2), gan gynnwys chadarnhad a aethpwyd i’r afael â’r materion a godwyd ai peidio, ac os felly, sut; ac

(h)     copïau o’r holl ymatebion a gafwyd gan ymgyngoreion arbenigol, ynghyd ag eglurhad o’r ystyriaeth a roddwyd i bob ymateb.

RHAN 3

Ceisiadau

Ceisiadau: gofynion cyffredinol

12.—(1) Rhaid i gais gynnwys y canlynol—

(a)     y ffurflen gais a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru (neu ffurflen sydd, o ran sylwedd, yn cael yr un effaith), gan gynnwys y manylion a bennir neu y cyfeirir atynt yn y ffurflen;

(b)     ac eithrio yn achos cais a wneir yn unol ag adran 73 o Ddeddf 1990 (penderfynu ceisiadau i ddatblygu tir heb gydymffurfio ag amodau a osodwyd yn flaenorol)([22])—

                           (i)    plan sy’n galluogi adnabod y tir y mae’r cais yn ymwneud ag ef;

                         (ii)    unrhyw blaniau, lluniadau a gwybodaeth arall sy’n angenrheidiol er mwyn disgrifio’r datblygiad sy’n destun y cais arfaethedig;

                       (iii)    copi o’r hysbysiad sy’n ofynnol gan erthygl 6 ac nad yw wedi darfod o dan baragraff (3) o’r erthygl honno;

                        (iv)    y datganiad dylunio a mynediad sy’n ofynnol gan erthygl 14;

                          (v)    y dystysgrif sy’n ofynnol gan erthygl 17;

                        (vi)    yr adroddiad ar yr ymgynghoriad cyn-ymgeisio sy’n ofynnol gan erthygl 11;

                      (vii)    y manylion neu’r dystiolaeth sy’n ofynnol gan Weinidogion Cymru o dan adran 62(3) o Ddeddf 1990;

                    (viii)    pan fo’n gymwys, datganiad amgylcheddol;

                        (ix)    datganiad ysgrifenedig ynghylch unrhyw gydsyniadau eilaidd sy’n gysylltiedig â’r cais arfaethedig ac y tybia’r ceisydd fod penderfyniad ar y cydsyniad hwnnw i gael ei wneud, neu y dylid ei wneud, gan Weinidogion Cymru; a

                          (x)    datganiad ysgrifenedig ynghylch statws trafodaethau rhwng y ceisydd a’r awdurdod cynllunio lleol mewn cysylltiad â rhwymedigaethau o dan adran 106 o Ddeddf 1990 (rhwymedigaethau cynllunio)([23]).

(2) Rhaid i unrhyw blaniau neu luniadau y mae paragraff (1)(b)(i) neu (1)(b)(ii) yn gwneud yn ofynnol eu darparu fod wedi eu lluniadu ar raddfa a nodir gan y ceisydd, ac yn achos planiau rhaid dangos cyfeiriad y gogledd.

(3) Nid yw paragraff (1)(b)(vii) yn gymwys ac eithrio pan fo—

(a)     Gweinidogion Cymru, cyn bo’r cais wedi ei wneud, wedi cyhoeddi rhestr o ofynion ar eu gwefan; a

(b)     y manylion neu’r dystiolaeth y mae’n ofynnol gan Weinidogion Cymru eu cynnwys yn y cais yn dod o fewn y rhestr honno.

(4) Rhaid i gais am ddatblygiad sy’n cynnwys gweithrediadau mwyngloddio neu ddefnyddio tir ar gyfer dyddodion gweithfeydd mwynau([24]) gynnwys—

(a)     y ffurflen gais a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru (neu ffurflen sydd, o ran sylwedd, yn cael yr un effaith), gan gynnwys y manylion a bennir neu y cyfeirir atynt yn y ffurflen; a

(b)     ac eithrio yn achos cais a wneir yn unol ag adran 73 o ddeddf 1990, y dogfennau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)(b).

(5) Pan wneir cais gan ddefnyddio cyfathrebiadau electronig rhaid i’r ceisydd, ar yr un diwrnod ag y gwneir y cais, adneuo un copi caled o’r cais gydag—

(a)     Gweinidogion Cymru; a

(b)     yr awdurdod cynllunio lleol.

(6) Rhaid i’r ceisydd, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, gadarnhau mewn ysgrifen wrth Weinidogion Cymru ei fod wedi cydymffurfio â’r gofyniad ym mharagraff (5)(b).

(7) Pan fo Gweinidogion Cymru yn cael cais, rhaid iddynt, cyn gynted ag y bo’n ymarferol, roi gwybod i’r awdurdod cynllunio lleol eu bod wedi cael y cais.

(8) Rhaid cyflwyno cais ynghyd ag unrhyw ffi sy’n daladwy mewn cysylltiad ag—

(a)     gweinyddiad dechreuol y cais

(b)     unrhyw adroddiad ar yr effaith leol sy’n ofynnol o dan adran 62I(2) o Ddeddf 1990.

Ceisiadau mewn cysylltiad â thir y Goron

13. Rhaid i gais mewn cysylltiad â thir y Goron gael ei gyflwyno ynghyd ag—

(a)     datganiad bod y cais wedi ei wneud mewn cysylltiad â thir y Goron; a

(b)     pan wneir y cais gan berson a awdurdodwyd mewn ysgrifen gan yr awdurdod priodol, copi o’r awdurdodiad hwnnw.

Datganiadau dylunio a mynediad

14.—(1) Rhaid i gais gynnwys datganiad (“datganiad dylunio a mynediad”) (“design and access statement”) sy’n cydymffurfio â pharagraff (2).

(2) Rhaid i ddatganiad dylunio a mynediad—

(a)     esbonio’r egwyddorion a chysyniadau dylunio a gymhwyswyd mewn perthynas â’r datblygiad;

(b)     dangos y camau a gymerwyd wrth arfarnu cyd-destun y datblygiad a’r modd y mae dyluniad y datblygiad yn cymryd y cyd-destun hwnnw i ystyriaeth;

(c)     esbonio’r polisi neu’r dull a fabwysiadwyd o ran mynediad, a’r modd y cymerwyd i ystyriaeth y polisïau ynglŷn â mynediad sydd yn y cynllun datblygu([25]); a

(d)     esbonio sut yr aethpwyd i’r afael ag unrhyw faterion penodol a allai effeithio ar fynediad i’r datblygiad.

Derbyn ceisiadau

15.—(1) Rhaid ystyried bod Gweinidogion Cymru wedi cael “cais dilys” pan fyddant wedi cael pob un o’r canlynol—

(a)     cais sydd yn unol ag erthygl 12(1);

(b)     unrhyw ffi y mae’n ofynnol ei thalu am wasanaethau cyn-ymgeisio a ddarparwyd o dan Reoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Cymru) 2016([26]);

(c)     y ffi y cyfeirir ati yn erthygl 5(3); a

(d)     y ffioedd y cyfeirir atynt yn erthygl 12(8).

(2) Pan fo Gweinidogion Cymru yn cael cais dilys rhaid iddynt roi hysbysiad eu bod wedi derbyn y cais (“hysbysiad derbyn”) (“notice of acceptance”) i’r ceisydd ac i’r awdurdod cynllunio lleol yn unol â pharagraff (4).

(3) Rhoi hysbysiad o’r fath yn unol â pharagraff (2) sydd yn cyflawni derbyn y cais at ddibenion adran 62L(3) o Ddeddf 1990 (amserlen ar gyfer penderfynu ceisiadau) (a’r dyddiad y rhoddir yr hysbysiad yw dyddiad derbyn y cais).

(4) O ran hysbysiad derbyn —

(a)     rhaid ei roi mewn ysgrifen o fewn y cyfnod perthnasol;

(b)     rhaid iddo gadarnhau bod y cais wedi ei dderbyn; ac

(c)     caiff gynnwys pa bynnag wybodaeth arall ynglŷn â’r cais a ystyrir yn briodol gan Weinidogion Cymru.

(5) Pan fo Gweinidogion Cymru o’r farn nad yw cais a gawsant yn ddilys rhaid iddynt, o fewn y cyfnod perthnasol, hysbysu’r canlynol nad yw’r cais wedi ei dderbyn—

(a)     y ceisydd;

(b)     yr awdurdod cynllunio lleol; ac

(c)     unrhyw bersonau eraill a ystyrir yn briodol gan Weinidogion Cymru.

(6) Rhaid i hysbysiad a roddir o dan baragraff (5) gynnwys y rhesymau pam y mae Gweinidogion Cymru o’r farn nad yw’r cais a gawsant yn gais dilys.

(7) Yn yr erthygl hon, ystyr “y cyfnod perthnasol” (“the relevant period”) yw—

(a)     mewn achos pan gyflwynir datganiad amgylcheddol ynghyd â’r cais, cyfnod o 42 diwrnod, sy’n dechrau gyda’r diwrnod y mae Gweinidogion Cymru yn cael y cais, neu pa bynnag gyfnod hwy a bennir gan Weinidogion Cymru; neu

(b)     mewn achos pan na chyflwynir datganiad amgylcheddol ynghyd â’r cais, cyfnod o 28 diwrnod, sy’n dechrau gyda’r diwrnod y mae Gweinidogion Cymru yn cael y cais, neu pa bynnag gyfnod hwy a bennir gan Weinidogion Cymru.

Hysbysiadau o geisiadau am ganiatâd cynllunio

16.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i geisydd roi hysbysiad gofynnol o’r cais i unrhyw berson (ac eithrio’r ceisydd) sydd, ar y dyddiad rhagnodedig, yn berchennog, neu yn denant, unrhyw ran o’r tir y mae’r cais yn ymwneud ag ef—

(a)     drwy gyflwyno’r hysbysiad i bob person o’r fath y mae ei enw a’i gyfeiriad yn hysbys i’r ceisydd; a

(b)     pan fo’r ceisydd wddi cymryd camau rhesymol i ddarganfod enwau a chyfeiriadau pob person o’r fath, ond wedi methu â gwneud hynny, drwy gyhoeddi’r hysbysiad ar ôl y dyddiad rhagnodedig mewn papur newydd sy’n cylchredeg yn y gymdogaeth y lleolir ynddi’r tir y mae’r cais yn ymwneud ag ef.

(2) Yn achos cais sy’n cynnwys cloddio a gweithio mwynau drwy weithrediadau tanddaearol, yn hytrach na rhoi hysbysiad yn y modd y darperir ar ei gyfer ym mharagraff (1), rhaid i’r ceisydd roi hysbysiad gofynnol o’r cais i unrhyw berson (ac eithrio’r ceisydd) sydd, ar y dyddiad rhagnodedig, yn berchennog, neu yn denant, unrhyw ran o’r tir y mae’r cais yn ymwneud ag ef —

(a)     drwy gyflwyno’r hysbysiad i bob person y gŵyr y ceisydd ei fod yn berson o’r fath ac y mae ei enw a’i gyfeiriad yn hysbys i’r ceisydd;

(b)     drwy gyhoeddi’r hysbysiad ar ôl y dyddiad rhagnodedig mewn papur newydd sy’n cylchredeg yn y gymdogaeth y lleolir ynddi’r tir y mae’r cais yn ymwneud ag ef; ac

(c)     drwy ei arddangos ar y safle, mewn o leiaf un man ym mhob cymuned y lleolir ynddi unrhyw ran o’r tir y mae’r cais yn ymwneud ag ef, gan adael yr hysbysiad yn ei le am gyfnod o ddim llai na 7 diwrnod yn y cyfnod o 21 diwrnod yn union cyn gwneud y cais i Weinidogion Cymru.

(3) Rhaid i’r hysbysiad sy’n ofynnol gan baragraff (2)(c) (yn ychwanegol at unrhyw faterion eraill y mae’n ofynnol eu cynnwys ynddo) ddatgan cyfeiriad y wefan lle y cyhoeddir copi o’r cais ac o’r holl blaniau a dogfennau eraill a gyflwynwyd ynghyd â’r cais.

(4) Pan fo’r hysbysiad, heb unrhyw fwriad gan y ceisydd na bai arno, gael ei dynnu ymaith, ei guddio neu ei ddifwyno cyn bo’r cyfnod o 7 diwrnod y cyfeirir ato ym mharagraff (2)(c) wedi dod i ben, trinnir y ceisydd fel pe bai wedi cydymffurfio â gofynion y paragraff perthnasol os yw’r ceisydd wedi cymryd camau rhesymol i ddiogelu’r hysbysiad ac, os oes angen, ei amnewid.

(5) Y dyddiad a ragnodir at ddibenion adran 65(2) o Ddeddf 1990 (hysbysiad etc o geisiadau am ganiatâd cynllunio), a’r “dyddiad rhagnodedig” (“prescribed date”) at ddibenion yr erthygl hon, yw’r dyddiad 21 diwrnod cyn dyddiad y cais.

(6) Y ceisiadau a ragnodwyd at ddibenion paragraff (c) o’r diffiniad o “owner” (“perchennog”) yn adran 65(8) o Ddeddf 1990 yw ceisiadau mwynau, a’r mwynau a ragnodir ar gyfer y paragraff hwnnw yw unrhyw fwynau ac eithrio olew, nwy, glo, aur neu arian.

(7) Yn yr erthygl hon—

ystyr “cais mwynau” (“minerals application”) yw cais ar gyfer datblygiad sy’n cynnwys cloddio a gweithio mwynau;

ystyr “hysbysiad gofynnol” (“requisite notice”) yw hysbysiad yn y ffurf a nodir yn Atodlen 3 (neu ffurf sydd, o ran sylwedd, yn cael yr un effaith), ond ni fydd yn cynnwys hysbysiad a gyflwynir gan ddefnyddio cyfathrebiadau electronig; ac

ystyr “tenant” (“tenant”) yw tenant amaethyddol, yn yr ystyr a roddir i “agricultural tenant” gan adran 65(8) o Ddeddf 1990, tir y mae unrhyw ran ohono yn gynwysedig yn y tir y mae’r cais yn ymwneud ag ef.

Tystysgrifau mewn perthynas â hysbysiadau o geisiadau

17.—(1) Pan wneir cais, rhaid i’r ceisydd ardystio, mewn ffurf a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru (neu mewn ffurf sydd, o ran sylwedd, yn cael yr un effaith), fod gofynion erthygl 16 wedi eu bodloni.

(2) Os oes gan geisydd reswm i ddibynnu ar baragraff (5) o erthygl 16, rhaid i’r dystysgrif ddatgan yr amgylchiadau perthnasol.

Cyhoeddusrwydd i geisiadau am ganiatâd cynllunio: Gweinidogion Cymru

18.—(1) Rhaid i gais gael ei hysbysebu gan Weinidogion Cymru yn y modd a ragnodir gan yr erthygl hon.

(2) Rhaid i gais gael ei hysbysebu drwy roi hysbysiad gofynnol—

(a)     drwy gyhoeddi’r hysbysiad, o fewn y cyfnod perthnasol, mewn papur newydd sy’n cylchredeg yn y gymdogaeth y lleolir ynddi’r tir y mae’r cais yn ymwneud ag ef;

(b)     drwy gyflwyno’r hysbysiad, o fewn y cyfnod perthnasol, i unrhyw berchennog neu feddiannydd cyffiniol.

(3) Rhaid cyhoeddi’r wybodaeth ganlynol ar wefan a gynhelir gan Weinidogion Cymru—

(a)     cyfeiriad a lleoliad y datblygiad arfaethedig;

(b)     disgrifiad o’r datblygiad arfaethedig;

(c)     y dyddiad olaf ar gyfer cael unrhyw sylwadau ynglŷn â’r cais;

(d)     ym mhle a pha bryd y caniateir archwilio’r cais; ac

(e)     sut y gellir gwneud sylwadau ynglŷn â’r cais

(4) Yn yr erthygl hon—

ystyr “y cyfnod perthnasol” (“the relevant period”) yw cyfnod o 5 diwrnod gwaith sy’n dechrau gyda’r diwrnod y mae Gweinidogion Cymru yn derbyn y cais yn unol ag erthygl 15(3); ac

ystyr “hysbysiad gofynnol” (“requisite notice”) yw hysbysiad yn y ffurf briodol a nodir yn Atodlen 4 (neu ffurf sydd, o ran sylwedd, yn cael yr un effaith); ac

ystyr “perchennog neu feddiannydd cyffiniol” (“adjoining owner or occupier”)  yw perchennog neu feddiannydd unrhyw dir sy’n cydffinio â’r tir y mae’r cais yn ymwneud ag ef.

Cyhoeddusrwydd i geisiadau am ganiatâd cynllunio: awdurdod cynllunio lleol

19.—(1) Rhaid i gais gael ei hysbysebu gan yr awdurdod cynllunio lleol yn y modd a ragnodir gan yr erthygl hon.

(2) Rhaid i’r awdurdod cynllunio lleol roi hysbysiad drwy arddangos ar y safle, mewn ffurf a gyflenwir i’r awdurdod gan Weinidogion Cymru, mewn o leiaf un man o fewn ardal yr awdurdod sydd ar neu gerllaw’r tir y mae’r cais arfaethedig yn ymwneud ag ef, am gyfnod o ddim llai na 21 diwrnod.

(3) Pan fo’r awdurdod cynllunio lleol wedi bodloni’r gofyniad ym mharagraff (2), rhaid iddo roi gwybod i Weinidogion Cymru ei fod wedi gwneud hynny, o fewn cyfnod o 5 diwrnod sy’n dechrau gyda’r diwrnod y rhoddwyd yr hysbysiad.

(4) Os yw’r awdurdod cynllunio lleol yn methu â chydymffurfio â’r gofyniad ym mharagraff (2), caiff Gweinidogion Cymru, yn lle’r awdurdod, gymryd y camau y mae’n ofynnol i’r awdurdod eu cymryd o dan y paragraff hwnnw.

(5) Pan fo’r hysbysiad, heb unrhyw fwriad gan, nac unrhyw fai ar yr awdurdod cynllunio lleol (neu Weinidogion Cymru, yn ôl fel digwydd yn unol â pharagraff (4)), gael ei dynnu ymaith, ei guddio neu ei ddifwyno cyn bo’r cyfnod o 21 diwrnod y cyfeirir ato ym mharagraff (2) wedi dod i ben, trinnir yr awdurdod neu Weinidogion Cymru fel pe baent wedi cydymffurfio â gofynion y paragraff hwnnw os byddant wedi cymryd camau rhesymol i ddiogelu’r hysbysiad, neu os oes angen, ei amnewid.

Cofrestr ceisiadau

20.—(1)Rhaid i’r awdurdod cynllunio lleol, o fewn y cyfnod perthnasol osod copi o’r canlynol ar y gofrestr y mae’n ofynnol ei chadw o dan erthygl 29 o Orchymyn 2012—

(a)     unrhyw gais a wneir i Weinidogion Cymru;

(b)     unrhyw wybodaeth ynghylch cael cais, a roddir gan Weinidogion Cymru o dan erthygl 12(7);

(c)     unrhyw hysbysiad derbyn, a roddir gan Weinidogion Cymru mewn perthynas â chais, o dan erthygl 15(2);

(d)     unrhyw hysbysiad nad yw cais wedi ei dderbyn felly, a roddir o dan erthygl 15(5);

(e)     unrhyw hysbysiad ysgrifenedig o benderfyniad a roddwyd mewn perthynas â chais, o dan erthygl 29; ac

(f)      unrhyw hysbysiad diwygiedig o benderfyniad i roi caniatâd cynllunio, a roddir o dan erthygl 30.

(2)  Yn yr erthygl hon, ystyr “y cyfnod perthnasol” (“the relevant period”) yw cyfnod o 5 diwrnod gwaith sy’n dechrau gydag—

(a)     mewn achos pan wneir neu pan roddir cais, gwybodaeth neu hysbysiad o fath y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(a) i (e), y diwrnod y mae’r awdurdod cynllunio lleol yn cael y cyfryw gais, gwybodaeth neu hysbysiad; neu

(b)     mewn achos pan roddir hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(f), y diwrnod y mae’r awdurdod cynllunio lleol yn rhoi’r cyfryw hysbysiad.

Sylwadau a geir gan yr awdurdod cynllunio lleol mewn cysylltiad â cheisiadau

21. Pan fo awdurdod cynllunio lleol yn cael sylwadau mewn perthynas â chais, rhaid iddo, cyn gynted ag y bo’n ymarferol, anfon y sylwadau ymlaen at Weinidogion Cymru, i’r cyfeiriad at y diben hwnnw, yr hysbysir yr awdurdod ohono gan Weinidogion Cymru.

RHAN 4

Ymgyngoriadau cyn rhoi caniatâd

Dyletswydd i ymgynghori cyn rhoi caniatâd

22.—(1) Rhaid i Weinidogion Cymru, o fewn y cyfnod sylwadau, ymgynghori ag unrhyw ymgynghorai arbenigol, ac eithrio pan fo ymgynghorai arbenigol wedi rhoi gwybod i Weinidogion Cymru nad yw’n dymuno iddynt ymgynghori ag ef.

(2) Nid yw’r eithriad ym mharagraff (1) yn gymwys pan fo’r datblygiad, ym marn Gweinidogion Cymru, yn dod o fewn paragraff (t) o’r Tabl yn Atodlen 5.

(3) Caiff Gweinidogion Cymru, mewn unrhyw achos neu ddosbarth o achosion, ymgynghori hefyd ag unrhyw awdurdod, corff neu berson yn ychwanegol i’r rhai a bennir yn Atodlen 5.

(4) Os gwneir yn ofynnol, gan neu o dan yr erthygl hon, fod Gweinidogion Cymru yn ymgynghori ag unrhyw ymgynghorai arbenigol cyn rhoi caniatâd cynllunio—

(a)     rhaid iddynt roi hysbysiad o’r cais i’r ymgynghorai arbenigol hwnnw; a

(b)     rhaid iddynt beidio â phenderfynu’r cais tan o leiaf 21 diwrnod ar ôl y dyddiad y rhoddir yr hysbysiad o dan is-baragraff (a).

(5) Rhaid i Weinidogion Cymru, wrth benderfynu’r cais, gymryd i ystyriaeth unrhyw sylwadau a gânt gan ymgynghorai arbenigol.

Dyletswydd i ymateb i ymgynghoriad

23.—(1) Mae’r gofyniad i ymgynghori yn erthygl 22(1) a (2) wedi ei ragnodi at ddibenion adran 54(2)(b) o Ddeddf 2004 (dyletswydd i ymateb i ymgynghoriad).

(2) At ddibenion adran 54(4)(a) o Ddeddf 2004 y cyfnod a ragnodir yw—

(a)     21 diwrnod, sy’n dechrau gyda’r cynharaf o’r canlynol—

                           (i)    y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad y cyfeirir ato yn erthygl 22(4)(a); neu

                         (ii)    dyddiad cyflwyno copi o’r cais i’r ymgynghorai arbenigol ; neu

(b)     pa bynnag gyfnod arall a gytunir mewn ysgrifen rhwng yr ymgynghorai arbenigol a Gweinidogion Cymru.

(3) At ddibenion yr erthygl hon, ac yn unol ag adran 54(5)(c) o Ddeddf 2004, ystyr “ymateb o sylwedd” (“substantive response”) yw ymateb sydd—

(a)     pan na chynhaliwyd ymgynghoriad at ddibenion adran 61Z o Ddeddf 1990, neu pan fo’r ymgynghorai arbenigol wedi methu â rhoi ymateb yn unol ag erthygl 10—

                           (i)    yn datgan nad oes gan yr ymgynghorai arbenigol unrhyw sylw i’w wneud;

                         (ii)    yn datgan nad oes gan yr ymgynghorai arbenigol wrthwynebiad i’r datblygiad arfaethedig ac yn cyfeirio Gweinidogion Cymru at y cyngor sefydlog cyfredol gan yr ymgynghorai arbenigol ar destun yr ymgynghoriad;

                       (iii)    yn rhoi gwybod i Weinidogion Cymru am unrhyw bryderon a ganfuwyd mewn perthynas â’r datblygiad arfaethedig a sut y gall y ceisydd fynd i’r afael â’r pryderon hynny;

                        (iv)    yn rhoi gwybod bod yr ymgynghorai arbenigol yn gwrthwynebu’r datblygiad arfaethedig ac yn nodi’r rhesymau am y gwrthwynebiad; neu

(b)     pan fo ymgynghoriad wedi ei gynnal at ddibenion adran 61Z o Ddeddf 1990, a’r ymgynghorai arbenigol wedi rhoi ymateb yn unol ag erthygl 10—

                           (i)    yn datgan nad oes gan yr ymgynghorai arbenigol sylw pellach i’w wneud mewn cysylltiad â’r datblygiad arfaethedig ac yn cadarnhau bod unrhyw sylwadau a wnaed o dan erthygl 10 yn parhau’n berthnasol;

                         (ii)    yn rhoi gwybod i Weinidogion Cymru am unrhyw bryderon newydd a ganfuwyd mewn perthynas â’r datblygiad arfaethedig, pam nad oedd y pryderon hynny wedi eu nodi yn yr ymateb yn unol ag erthygl 10 ac—

(aa)        sut y gall y ceisydd fynd i’r afael â’r pryderon; neu

(bb)       bod yr ymgynghorai arbenigol yn gwrthwynebu’r datblygiad arfaethedig, ac yn nodi’r rhesymau am y gwrthwynebiad.

Dyletswydd i ymateb i ymgynghoriad: adroddiadau blynyddol

24.—(1) Rhaid i bob ymgynghorai arbenigol sydd, yn rhinwedd adran 54 o Ddeddf 2004 ac erthygl 23, o dan ddyletswydd i ymateb i ymgynghoriad, gyflwyno adroddiad i Weinidogion Cymru ar gydymffurfiaeth yr ymgynghorai arbenigol hwnnw ag adran 54(4) o Ddeddf 2004, ddim hwyrach nag 1 Gorffennaf ym mhob blwyddyn gan ddechrau gydag 1 Gorffennaf 2017.

(2) Rhaid i bob ymgynghorai arbenigol sydd, yn rhinwedd erthygl 10,  o dan ddyletswydd i ymateb i ymgynghoriad cyn-ymgeisio, gynnwys yn yr adroddiad a roddir i Weinidogion Cymru yn unol â pharagraff (1), adroddiad ar gydymffurfiaeth yr ymgynghorai arbenigol â’r erthygl honno.

(3) Rhaid i’r adroddiad ymwneud â’r cyfnod o 12 mis a oedd yn cychwyn gydag 1 Ebrill yn y flwyddyn flaenorol (“blwyddyn yr adroddiad”).

(4) Rhaid i’r adroddiad, mewn cysylltiad ag unrhyw flwyddyn adroddiad, gynnwys datganiad o’r canlynol—

(a)     nifer y troeon yr ymgynghorwyd â’r ymgynghorai arbenigol;

(b)     nifer y troeon y darparwyd ymateb o sylwedd;

(c)     pa bryd y rhoddwyd yr ymatebion o sylwedd; a

(d)     nifer y troeon y rhoddodd yr ymgynghorai arbenigol—

                           (i)    ymateb o sylwedd y tu allan i’r cyfnod a ragnodwyd at ddibenion 54(4) o Ddeddf 2004 neu, yn fel y digwydd, y cyfnod a bennir neu y cyfeirir ato yn erthygl 10(1); a

                         (ii)    crynodeb o’r rhesymau am hynny.

(5) Yn yr erthygl hon ystyr “ymateb o sylwedd” (“substantive response”) yw naill ai ymateb o sylwedd i’r ceisydd neu ymateb o sylwedd i Weinidogion Cymru neu i’r ddau yn unol ag erthyglau 10 a 23.

RHAN 5

Adroddiadau

Adroddiadau ar yr effaith leol

25.—(1) Rhaid i adroddiad ar yr effaith leol, sy’n ofynnol gan adran 62I(2) a (4) o Ddeddf 1990 (gofyniad i gyflwyno adroddiad ar yr effaith leol) mewn perthynas â chais, gydymffurfio â’r erthygl hon.

(2) Rhaid i adroddiad o’r fath—

(a)     cynnwys disgrifiad o—

                           (i)    hanes cynllunio perthnasol y tir y mae’r cais yn ymwneud ag ef;

                         (ii)     unrhyw ddynodiadau lleol sy’n berthnasol i’r tir y mae’r cais yn ymwneud ag ef ;

                       (iii)    yr effaith debygol pe bai unrhyw gais mewn perthynas â chydsyniad eilaidd (pa un a’i gwnaed i Weinidogion Cymru, neu y’i hatgyfeiriwyd iddynt o dan adran 62F o Ddeddf 1990) yn cael ei ganiatáu;

(b)     pennu unrhyw—

                           (i)    polisïau cynllunio sy’n gymwysadwy yn lleol, canllawiau a dogfennau eraill sy’n berthnasol i’r cais; a

                         (ii)    amodau neu rwymedigaethau drafft, y tybia’r awdurdod cynllunio lleol([27]) y dylai’r cais, pe caniateid, fod yn ddarostyngedig iddynt, ac a fyddai’n lliniaru effeithiau tebygol y datblygiad arfaethedig ar ardal (neu ar ran o ardal) yr awdurdod; ac

(c)     cynnwys—

                           (i)    copi o’r hysbysiad y mae’n ofynnol ei arddangos o dan erthygl 19(2);

                         (ii)    ffotograff o’r hysbysiad yn cael ei arddangos felly; a

                       (iii)    disgrifiad o leoliad yr hysbysiad drwy gyfeirio at fap.

(3) Y cam a gymerir gan Weinidogion Cymru at ddibenion adran 62I o Ddeddf 1990 yw rhoi hysbysiad derbyn yn unol ag erthygl 15(3).

Adroddiadau gwirfoddol ar yr effaith leol

26.—(1) Rhaid i unrhyw gyngor cymuned neu awdurdod cynllunio lleol sy’n cyflwyno “adroddiad gwirfoddol ar yr effaith leol” yn yr ystyr a roddir i “voluntary local impact report” o dan adran 62J(2) o Ddeddf 1990 (dyletswydd i roi sylw i adroddiad ar yr effaith leol) wneud hynny o fewn y cyfnod sylwadau.

(2) Rhaid i adroddiad o’r fath—

(a)     cynnwys disgrifiad o’r effaith debygol pe bai unrhyw gais mewn perthynas â chydsyniad eilaidd (pa un a’i gwnaed i Weinidogion Cymru, neu y’i hatgyfeiriwyd iddynt o dan adran 62F o Ddeddf 1990) yn cael ei ganiatáu; a

(b)     pennu unrhyw—

                           (i)    polisïau cynllunio sy’n gymwysadwy yn lleol, canllawiau a dogfennau eraill sy’n berthnasol i’r cais; a

                         (ii)    amodau neu rwymedigaethau drafft, y tybia’r awdurdod cynllunio lleol y dylai’r cais, pe caniateid, fod yn ddarostyngedig iddynt, ac a fyddai’n lliniaru effeithiau tebygol y datblygiad arfaethedig ar ardal (neu ar ran o ardal) y cyngor neu’r awdurdod.

RHAN 6

Amrywio ceisiadau

Gweithdrefn mewn cysylltiad ag amrywio ceisiadau

27.—(1) Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau canlynol yr erthygl hon a chyda chaniatâd Gweinidogion Cymru, caniateir amrywio cais ar ôl ei wneud.

(2) Ar un achlysur, yn unig, y caniateir i geisydd gynnig bod cais penodol i Weinidogion Cymru yn cael ei amrywio.

(3) Rhaid i geisydd sy’n bwriadu bod cais yn cael ei amrywio hysbysu Gweinidogion Cymru mewn ysgrifen o fewn y 10 diwrnod gwaith yn union ar ôl diwedd y cyfnod sylwadau.

(4) Rhaid i’r cyfryw hysbysiad (“hysbysiad o fwriad i amrywio”) (“notification of intention to vary”)—

(a)     cael ei roi ar ffurflen a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru (neu ffurflen sydd, o ran sylwedd, yn cael yr un effaith);

(b)     darparu disgrifiad o’r amrywiad y mae’r ceisydd yn dymuno i Weinidogion Cymru ei dderbyn ar gyfer ei ystyried ganddynt; ac

(c)     cael ei gyflwyno ynghyd ag unrhyw ffi y mae’n ofynnol ei thalu mewn perthynas â rhoi hysbysiad o’r fath.

(5) Rhaid i Weinidogion Cymru, o fewn 5 diwrnod gwaith ar ôl cael hysbysiad o fwriad i amrywio a roddwyd yn unol â pharagraff (4), roi hysbysiad i’r ceisydd sy’n dynodi a fydd Gweinidogion Cymru yn derbyn yr amrywiad arfaethedig at y diben o ystyried a ydynt yn cytuno ai peidio i’r amrywiad.

(6) Pan fo Gweinidogion Cymru yn rhoi hysbysiad o dan baragraff (5) sy’n cadarnhau na fyddant yn derbyn yr amrywiad arfaethedig at y diben o ystyried a ydynt yn cytuno ai peidio i’r amrywiad, yna, y cais fel y’i gwnaed yn wreiddiol o dan erthygl 12 a fydd yn cael ei benderfynu gan Weinidogion Cymru

(7) Pan fo Gweinidogion Cymru yn rhoi hysbysiad o dan baragraff (5) sy’n cadarnhau y byddant yn derbyn yr amrywiad arfaethedig at y diben o ystyried a ydynt yn cytuno ai peidio i’r amrywiad, rhaid i’r ceisydd gyflwyno’r amrywiad arfaethedig yn ffurfiol i Weinidogion Cymru o fewn cyfnod o 28 diwrnod sy’n dechrau gyda’r diwrnod y rhoddir yr hysbysiad.

(8) Pan fo Gweinidogion Cymru o’r farn bod yr amrywiad arfaethedig yn peri newid sylweddol yn natur y datblygiad y ceisir caniatâd cynllunio ar ei gyfer, rhaid iddynt beidio â chytuno i’r amrywiad.

(9) Caiff Gweinidogion Cymru ymgynghori ynghylch unrhyw amrywiad a gynigir gan geisydd, gydag unrhyw bersonau ac ym mha bynnag fodd yr ystyriant yn briodol.

(10) Caiff Gweinidogion Cymru, pan fo cais wedi ei amrywio o dan yr erthygl hon, roi pa bynnag hysbysiad o’r amrywiad a ystyriant yn briodol.

RHAN 7

Penderfynu a hysbysu ynghylch cychwyn datblygiad

Sylwadau sydd i’w cymryd i ystyriaeth

28.—(1) Rhaid i Weinidogion Cymru, wrth benderfynu cais, gymryd i ystyriaeth unrhyw sylw a wneir wrth ymateb i—

(a)     hysbysiad a roddir drwy arddangos ar y safle o dan erthygl 16 neu 19;

(b)     hysbysiad a gyflwynir i—

                           (i)    perchennog y tir neu denant o dan erthygl 16; neu

                         (ii)    perchennog neu feddiannydd cyffiniol o dan erthygl 18;

(c)     hysbysiad neu wybodaeth a gyhoeddir mewn papur newydd o dan erthygl 16 neu 18 neu ar wefan o dan erthygl 18.

(2) Nid yw’r gofyniad ym mharagraff (1) yn gymwys ac eithrio pan ceir y sylwadau dan sylw yn ystod y cyfnod sylwadau.

(3) Caiff Gweinidogion Cymru ddiystyru unrhyw sylw a wneir wedi i’r cyfnod sylwadau ddod i ben.

(4) Y sylwadau a’r cyfnodau y cyfeirir atynt yn yr erthygl hon yw’r sylwadau a’r cyfnodau a ragnodir at ddibenion adran 71(2)(a) o Ddeddf 1990 (ymgyngoriadau mewn cysylltiad â phenderfyniadau o dan adran 70).

 

Hysbysiad ysgrifenedig o benderfyniad mewn perthynas â chais

29.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), pan fo Gweinidogion Cymru yn derbyn cais yn unol ag erthygl 15, rhaid iddynt roi hysbysiad o’u penderfyniad i’r ceisydd ac i’r awdurdod cynllunio lleol.

(2) Nid yw paragraff (1) yn gymwys mewn achos pan fo’r cais wedi ei dynnu yn ôl neu pan dybir ei fod wedi ei dynnu’n ôl([28]).

(3) Pan fo Gweinidogion Cymru yn rhoi hysbysiad o benderfyniad ar gais, a naill ai caniatâd cynllunio yn cael ei roi yn ddarostyngedig i amodau neu’r cais yn cael ei wrthod, rhaid i’r hysbysiad ddatgan yn eglur ac yn fanwl y rhesymau llawn am y gwrthodiad neu am unrhyw amod a osodir, gan bennu’r holl bolisïau a chynigion yn y cynllun datblygu sy’n berthnasol i’r penderfyniad.

(4) Pan fo—

(a)     y ceisydd wedi cyflwyno datganiad amgylcheddol; a

(b)     Gweinidogion Cymru (ar ôl cymryd gwybodaeth amgylcheddol i ystyriaeth) wedi penderfynu rhoi caniatâd (pa un ai’n amodol neu’n ddarostyngedig i amodau),

rhaid i’r hysbysiad a roddir i’r ceisydd yn unol â’r erthygl hon gynnwys datganiad bod yr wybodaeth amgylcheddol wedi ei chymryd i ystyriaeth gan Weinidogion Cymru.

(5) Yn yr erthygl hon, mae i “gwybodaeth amgylcheddol” (“environmental information”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 2(1) o’r Rheoliadau AEA.

Hysbysiad diwygiedig o benderfyniad i roi caniatâd cynllunio

30.—(1) Y person penodedig at ddibenion adran 71ZA(5) o Ddeddf 1990 (hysbysiadau penderfynu) yw’r ceisydd.

(2) At ddibenion adran 71ZA(6) y manylion sydd i’w cynnwys yn y fersiwn ddiwygiedig o benderfyniad i roi caniatâd cynllunio yw—

(a)     y rhif cyfeirnod;

(b)     y dyddiad ac effaith y penderfyniad;

(c)     enw’r corff a wnaeth y penderfyniad; a

(d)     rhif y diwygiad.

Hysbysiad o gychwyn datblygiad ac arddangos hysbysiad

31.—(1) Mae caniatâd cynllunio ar gyfer datblygiad o arwyddocâd cenedlaethol wedi ei bennu at ddibenion adran 71ZB(6) o Ddeddf 1990.

(2) Rhaid i’r hysbysiad sydd i’w roi i awdurdod cynllunio lleol cyn cychwyn unrhyw ddatblygiad y mae caniatâd cynllunio perthnasol yn ymwneud ag ef, yn unol ag Adran 71ZB(1) o Ddeddf 1990, fod yn y ffurf a nodir yn Atodlen 6 (neu ffurf sydd, o ran sylwedd, yn cael yr un effaith).

(3) Rhaid i’r hysbysiad, sydd, yn unol ag adran 71ZB(2) o Ddeddf 1990, i gael ei arddangos drwy gydol yr amser y cyflawnir datblygiad y mae caniatâd cynllunio perthnasol yn ymwneud ag ef, fod—

(a)     yn y ffurf a nodir yn Atodlen 7 (neu ffurf sydd, o ran sylwedd, yn cael yr un effaith) ;

(b)     wedi ei osod yn gadarn yn ei le a’i arddangos mewn man amlwg yn neu gerllaw’r lle y cyflawnir y datblygiad;

(c)     yn ddarllenadwy ac yn weladwy yn rhwydd i aelodau’r cyhoedd, heb iddynt orfod mynd i mewn i’r safle; a

(d)     wedi ei argraffu ar ddeunydd durol.

(4) Pan fo’r hysbysiad, heb unrhyw fwriad na bai ar y person sy’n cyflawni’r datblygiad, gael ei dynnu ymaith, ei guddio neu ei ddifwyno, trinnir y person fel pe bai wedi cydymffurfio â gofynion is-baragraffau (b) ac (c) o baragraff (3) os byddant wedi cymryd camau rhesymol i ddiogelu’r hysbysiad, ac, os oes angen, ei amnewid.

RHAN 8

Diwygio Gorchymyn 2012

Diwygio Gorchymyn 2012

32.—(1) Mae Gorchymyn 2012 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2) Ar ôl erthygl 1(3) mewnosoder—

(3) (4) Ac eithrio erthyglau 29 a 30, nid oes dim yn y Gorchymyn hwn yn gymwys—

(a)     pan wneir cais i Weinidogion Cymru o dan adran 62D o Ddeddf 1990 (datblygiadau o arwyddocâd cenedlaethol: ceisiadau sydd i’w gwneud i Weinidogion Cymru); neu

(b)     pan fwriedir gwneud cais o’r fath.

 

 

 

 

 

 

 

Carl Sargeant

Y Gweinidog Adnoddau Naturiol, un o Weinidogion Cymru

27 Ionawr 2016

 



                                             ATODLEN 1                           Erthyglau 8 a 9

Cyhoeddusrwydd ac ymgynghori cyn gwneud cais am ganiatâd cynllunio

Gorchymyn Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Gweithdrefn) (Cymru) 2016

 

CYHOEDDUSRWYDD AC YMGYNGHORI CYN GWNEUD CAIS AM GANIATÂD CYNLLUNIO HYSBYSIAD O DAN ERTHYGLAU 8 A 9(2)

 

(i’w gyflwyno i berchnogion a/neu feddianwyr tir cyffiniol, ymgyngoreion cymunedol a phersonau perthnasol; i’w arddangos drwy hysbysiad safle ar neu gerllaw lleoliad y datblygiad arfaethedig; ac i’w gyhoeddi mewn papur newydd yn y gymdogaeth.)

 

Diben yr hysbysiad hwn : mae’r hysbysiad hwn yn rhoi cyfle i wneud sylwadau yn uniongyrchol i’r datblygwr ynglŷn â Datblygiad o Arwyddocâd Cenedlaethol (DAC) cyn bo cais am ganiatâd cynllunio wedi ei gyflwyno i Weinidogion Cymru. Bydd ceisiadau cynllunio ar gyfer DAC yn cael eu hysbysebu gan Weinidogion Cymru a’r awdurdod cynllunio lleol perthnasol; ni fydd unrhyw sylwadau a ddarperir gennych wrth ymateb i’r hysbysiad hwn yn lleihau dim ar eich gallu i gyflwyno sylwadau i Weinidogion Cymru ar unrhyw gais cynllunio DAC cysylltiedig. Dylech nodi y gellir gosod unrhyw sylwadau a gyflwynir gennych yn y ffeil gyhoeddus.

 

Datblygiad Arfaethedig yn (a) ……………………………………………….

 

Rwyf yn hysbysu bod (b) ………………………………………………………….

 

yn bwriadu gwneud cais i Weinidogion Cymru am ganiatâd cynllunio mewn cysylltiad â Datblygiad o Arwyddocâd Cenedlaethol sydd (c): ………………………….

 

ac yn tybio bod y cydsyniadau eilaidd canlynol yn gysylltiedig â’r cais arfaethedig, a bod penderfyniad mewn cysylltiad â’r cydsyniadau hynny i gael ei wneud, neu y dylid ei wneud, gan Weinidogion Cymru (d)…………………………………….

 

Gellwch archwilio copïau o’r canlynol:

 

-       y cais arfaethedig;

 

-       y planiau; a

 

-       dogfennau ategol eraill

 

ar-lein yn (e) ………………………………………………………………….

 

Dylai unrhyw un sy’n dymuno gwneud sylwadau ynglŷn â’r datblygiad arfaethedig hwn ysgrifennu at y ceisydd/yr asiant yn

 

(f)……………………………… neu

 

(g)……………………………….

 

erbyn (h) …………………………………………………

 

Llofnod: ………………………………………………

 

Dyddiad: …………………………………

 

 

Mewnosoder:

 

a)    cyfeiriad neu leoliad y datblygiad arfaethedig

b)    enw’r ceisydd

c)    disgrifiad o’r datblygiad arfaethedig

d)    manylion o’r cydsyniadau eilaidd y tybia’r ceisydd y dylai Gweinidogion Cymru wneud penderfyniad arnynt (ar gyfer y diffiniad o gydsyniad eilaidd, gweler adran 62H o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990; rhagnodir cydsyniadau eilaidd at ddibenion adran 62H gan Reoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Meini Prawf Penodedig a Chydsyniadau Eilaidd Rhagnodedig) (Cymru) 2016)

e)    cyfeiriad y wefan

f)     cyfeiriad e-bost y ceisydd /asiant

g)    cyfeiriad y ceisydd

h)    dyddiad sy’n darparu cyfnod o 42 diwrnod, sy’n dechrau gyda’r dyddiad cyflwyno a chyhoeddi

 

 

 


                                             ATODLEN 2                                  Erthygl 9

Ymgynghori cyn gwneud cais am ganiatâd cynllunio

Gorchymyn Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Gweithdrefn) (Cymru) 2016

 

YMGYNGHORI CYN GWNEUD CAIS AM GANIATÂD CYNLLUNIO - HYSBYSIAD O DAN ERTHYGL 9(3)

 

(i’w gyflwyno i ymgyngoreion arbenigol, fel y’u diffinnir gan erthygl 2 o Orchymyn Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Gweithdrefn) (Cymru) 2016)

 

Diben yr hysbysiad hwn : mae’r hysbysiad hwn yn archiad ffurfiol am ymateb i ymgynghoriad cyn-ymgeisio o dan erthygl 9(3) o Orchymyn Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Gweithdrefn) (Cymru) 2016.

 

Datblygiad Arfaethedig yn (a) ……………………………………………….

 

Rwyf yn hysbysu bod (b) ………………………………………………………….

 

yn bwriadu gwneud cais i Weinidogion Cymru am ganiatâd cynllunio mewn perthynas â Datblygiad o Arwyddocâd Cenedlaethol sydd (c): ………………………….

 

ac yn tybio bod y cydsyniadau eilaidd canlynol yn gysylltiedig â’r cais arfaethedig, a bod penderfyniad mewn perthynas â’r cydsyniadau hynny i gael ei wneud, neu y dylid ei wneud, gan Weinidogion Cymru (d)…………………………………….

 

 

Mae copi o’r cais arfaethedig; planiau; a dogfennau ategol eraill wedi eu hatodi yma /ar gael i’w harchwilio ar lein yn (e) ……………………………………. (dileer fel sy’n briodol)

 

Yn unol â gofynion erthygl 10 o Orchymyn Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Gweithdrefn) (Cymru) 2016, rhaid anfon ymateb i’r ymgynghoriad at (f) …………………erbyn (g)……………….

 

 

Llofnod: ………………………………………………

 

Dyddiad: …………………………………

 

 

 

 

Mewnosoder:

 

a)       cyfeiriad neu leoliad y datblygiad arfaethedig

b)      enw’r ceisydd

c)       disgrifiad o’r datblygiad arfaethedig

d)      manylion o’r cydsyniadau eilaidd y tybia’r ceisydd y dylai Gweinidogion Cymru wneud penderfyniad arnynt (ar gyfer y diffiniad o gydsyniad eilaidd, gweler adran 62H o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990; rhagnodir cydsyniadau eilaidd at ddibenion adran 62H gan Reoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Meini Prawf Penodedig a Chydsyniadau Eilaidd Rhagnodedig) (Cymru) 2016)

e)       cyfeiriad y wefan

f)       cyfeiriad e-bost y ceisydd /asiant

g)      dyddiad sy’n darparu cyfnod o 42 diwrnod, sy’n dechrau gyda’r dyddiad cyflwyno


                                             ATODLEN 3                                 Erthygl 16

Hysbysiadau o dan erthygl 16

 

 

Gorchymyn Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Gweithdrefn) (Cymru) 2016

 

HYSBYSIAD O DAN ERTHYGL 16(1) O GAIS AM GANIATÂD CYNLLUNIO AR GYFER DATBLYGIAD O ARWYDDOCÂD CENEDLAETHOL

 

(i’w gyflwyno i berchennog* neu denant** neu i’w gyhoeddi mewn papur newydd (ac ar wefan a gynhelir gan Weinidogion Cymru))

 

Datblygiad arfaethedig yn (a) ………………………………….

 

Rwyf yn hysbysu bod (b) ………………………………………………………….

 

yn gwneud cais i Weinidogion Cymru am ganiatâd cynllunio mewn cysylltiad â Datblygiad o Arwyddocâd Cenedlaethol sydd (c): ………………………….

 

Caiff aelodau o’r cyhoedd archwilio copïau o’r canlynol:

 

-       y cais;

 

-       y planiau; a

 

-       dogfennau eraill a gyflwynwyd gydag ef

 

ar-lein yn (d) ………………………………………………………. …

 

Dylai unrhyw un sy’n dymuno gwneud sylwadau ynglŷn â’r cais hwn ysgrifennu at Weinidogion Cymru yn

 

(e) ……………………………………………. neu (f) ……………………………………………………

 

 

erbyn (g) ……………………………………………….

 

* ystyr “perchennog” yw person sydd â buddiant rhydd-ddaliad, neu fuddiant lesddaliad sydd â thymor gweddilliol o ddim llai na saith mlynedd, neu, mewn achos datblygiad ar gyfer cloddio neu weithio mwynau person sydd â buddiant mewn mwyn sydd yn y tir (ac eithrio olew, nwy, glo, aur neu arian).

 

** ystyr “tenant yw tenant amaethyddol, yn yr ystyr a roddir i “agricultural tenant” gan adran 65(8) o Ddeddf 1990, tir sydd ag unrhyw ran ohono yn gynwysedig yn y tir y mae’r cais yn ymwneud ag ef.

 

Llofnod: …………………………………

 

+ Ar ran: ………………………………

 

Dyddiad: ………………………………………

 

Datganiad o hawliau perchnogion

 

Nid yw rhoi caniatâd cynllunio yn effeithio ar hawliau perchnogion i ddal gafael ar eu heiddo neu gael gwared ohono, onid oes darpariaeth i’r gwrthwyneb mewn cytundeb neu mewn les.

 

Datganiad o hawliau tenantiaid amaethyddol

 

Gallai rhoi caniatâd cynllunio ar gyfer datblygiad anamaethyddol effeithio ar sicrwydd deiliadaeth tenantiaeth amaethyddol.

 

+ dileer pan fo’n amhriodol

 

________________________________________________________________________________

 

Mewnosoder:

 

a)       cyfeiriad neu leoliad y datblygiad arfaethedig

b)      enw’r ceisydd

c)       disgrifiad o’r datblygiad arfaethedig

d)      cyfeiriad y wefan a gynhelir gan Weinidogion Cymru (url)

e)       cyfeiriad e-bost Gweinidogion Cymru

f)       cyfeiriad post Gweinidogion Cymru

g)      dyddiad sy’n darparu cyfnod hysbysu o 21 diwrnod, sy’n dechrau gyda dyddiad cyflwyno’r hysbysiad, neu 14 diwrnod sy’n dechrau gyda diwrnod ei gyhoeddi (yn ôl fel y digwydd)

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Gorchymyn Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Gweithdrefn) (Cymru) 2016

 

HYSBYSIAD O DAN ERTHYGL 16(2) O GAIS AM GANIATÂD CYNLLUNIO AR GYFER DATBLYGIAD O ARWYDDOCÂD CENEDLAETHOL AR GYFER CLODDIO A GWEITHIO MWYNAU DRWY WEITHREDIADAU TANDDAEAROL

 

(i’w arddangos yn achos cais am ganiatâd cynllunio mewn cysylltiad â Datblygiad o Arwyddocâd Cenedlaethol ar gyfer cloddio a gweithio mwynau drwy weithrediadau tanddaearol (yn ychwanegol at gyflwyno neu gyhoeddi unrhyw hysbysiad gofynnol arall yn yr Atodlen hon)).

 

Datblygiad arfaethedig yn (a) ………………………………….

 

Rwyf yn hysbysu bod (b) ………………………………………………………….

 

yn gwneud cais i Weinidogion Cymru am ganiatâd cynllunio mewn perthynas â Datblygiad o Arwyddocâd Cenedlaethol sydd (c): ………………………….

 

Caiff aelodau o’r cyhoedd archwilio copïau o’r canlynol:

 

-       y cais;

 

-       y planiau; a

 

-       dogfennau eraill a gyflwynwyd gydag ef

 

ar-lein yn (d) ………………………………………………………. …

 

Dylai unrhyw un sy’n dymuno gwneud sylwadau ynglŷn â’r cais hwn ysgrifennu at Weinidogion Cymru yn

 

(e) ……………………………………………. neu (f) ……………………………………………………

 

 

erbyn (g) ……………………………………………….

 

 

Llofnod: …………………………………

 

+ Ar ran: ………………………………

 

Dyddiad: ………………………………………

 

 

+ dileer pan fo’n amhriodol

 

 

_________________________________________________________________________________

 

Mewnosoder:

 

a)       cyfeiriad neu leoliad y datblygiad arfaethedig

b)      enw’r ceisydd

c)       disgrifiad o’r datblygiad arfaethedig

d)      cyfeiriad y wefan a gynhelir gan Weinidogion Cymru (url)

e)       cyfeiriad e-bost Gweinidogion Cymru

f)       cyfeiriad post Gweinidogion Cymru

g)      dyddiad sy’n darparu cyfnod o 21 diwrnod, sy’n dechrau gyda dyddiad arddangos yr hysbysiad

 

                                             ATODLEN 4                                 Erthygl 18

Cyhoeddusrwydd i geisiadau

Gorchymyn Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Gweithdrefn) (Cymru) 2016

 

HYSBYSIAD O DAN ERTHYGL 18 O GAIS AM GANIATÂD CYNLLUNIO MEWN CYSYLLTIAD Â DATBLYGIAD O ARWYDDOCÂD CENEDLAETHOL

 

(i’w gyflwyno i berchnogion a/neu feddianwyr tir cyffiniol; ei gyhoeddi ar wefan a gynhelir gan Weinidogion Cymru; a’i gyhoeddi mewn papur newydd)

 

 

Datblygiad arfaethedig yn (a) ………………………………….

 

Rwyf yn hysbysu bod (b) ………………………………………………………….

 

yn gwneud cais i Weinidogion Cymru am ganiatâd cynllunio mewn cysylltiad â Datblygiad o Arwyddocâd Cenedlaethol sydd (c): ………………………….

 

Caiff aelodau o’r cyhoedd archwilio copïau o’r canlynol:

 

-       y cais;

 

-       y planiau; a

 

-       dogfennau eraill a gyflwynwyd gydag ef

 

yn (d) ………………………………………………………. …

 

yn ystod unrhyw oriau rhesymol tan (e) ………………………….

 

ac ar-lein yn (f) ………………………………………………….

 

+Mae’r cais wedi ei gyflwyno ynghyd â Datganiad Amgylcheddol

 

Gall aelodau o’r cyhoedd gael copïau o’r Datganiad Amgylcheddol gan (g)

 

………………………………………………………… am dâl, cyhyd ag y bydd y stoc yn parhau.

 

Dylai unrhyw un sy’n dymuno gwneud sylwadau ynglŷn â’r cais hwn ysgrifennu at Weinidogion Cymru yn

 

(h) ………………………………………………………; neu

 

 

(i) ………………………………………

 

erbyn (j) …………………………………………………

 

Llofnod: ………………………………………………

 

Ar ran ………………………………………….

 

Dyddiad: …………………………………

 

 

 

+ dileer pan fo’n amhriodol

 

 

Mewnosoder:

 

a)       cyfeiriad neu leoliad y datblygiad arfaethedig

b)      enw’r ceisydd

c)       disgrifiad o’r datblygiad arfaethedig

d)      cyfeiriad yr awdurdod cynllunio lleol

e)       dyddiad sy’n darparu cyfnod o 21 diwrnod, sy’n dechrau gyda’r dyddiad cyflwyno a chyhoeddi

f)       cyfeiriad y wefan a gynhelir gan Weinidogion Cymru (url)

g)      cyfeiriad e-bost y ceisydd

h)      cyfeiriad e-bost Gweinidogion Cymru

i)        cyfeiriad post Gweinidogion Cymru

j)        dyddiad sy’n darparu cyfnod o 21 diwrnod, sy’n dechrau gyda’r dyddiad cyflwyno a chyhoeddi

 

 


                                             ATODLEN 5                                 Erthygl 22

Dyletswydd i ymgynghori cyn rhoi caniatâd

Tabl

 

 

 

Paragraff

Disgrifiad o’r Datblygiad

Ymgynghorai Arbenigol

 

 

 

 

 

(a)

Datblygiad o fewn ardal yr hysbyswyd Gweinidogion Cymru yn ei chylch gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch at ddibenion y ddarpariaeth hon oherwydd bod sylweddau gwenwynig, tra adweithiol, ffrwydrol neu fflamadwy yn bresennol yn y cyffiniau (ac eithrio ar safle niwclear perthnasol), a’r datblygiad yn cynnwys darparu—

(i) mwy na 500 metr sgwâr o arwynebedd llawr swyddfa; neu
(ii) mwy na 750 metr sgwâr o arwynebedd llawr sydd i’w ddefnyddio ar gyfer proses ddiwydiannol,

neu rywfodd arall yn debygol o achosi cynnydd materol perthnasol yn nifer y personau sy’n gweithio o fewn yr ardal yr hysbyswyd yn ei chylch, neu sy’n ymweld â’r ardal honno.

Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch

 

(b)

Datblygiad o fewn ardal yr hysbyswyd Gweinidogion Cymru yn ei chylch gan y Swyddfa Rheoleiddio Niwclear at ddibenion y ddarpariaeth hon oherwydd bod sylweddau gwenwynig, tra adweithiol, ffrwydrol neu fflamadwy yn bresennol yn y cyffiniau ar safle niwclear perthnasol, a’r datblygiad yn cynnwys darparu—

(i) mwy na 500 metr sgwâr o arwynebedd llawr swyddfa; neu
(ii) mwy na 750 metr sgwâr o arwynebedd llawr sydd i’w ddefnyddio ar gyfer proses ddiwydiannol,

neu rywfodd arall yn debygol o achosi cynnydd materol perthnasol yn nifer y personau sy’n gweithio o fewn yr ardal yr hysbyswyd yn ei chylch, neu sy’n ymweld â’r ardal honno.

Y Swyddfa Rheoleiddio Niwclear

 

(c)

Datblygiad sy’n debygol o achosi cynnydd materol perthnasol ym maint y traffig, neu newid materol berthnasol yng nghymeriad y traffig—

 

 

(i) sy’n ymuno neu’n ymadael â chefnffordd; neu

 Gweinidogion Cymru

 

 

(ii) yn defnyddio croesfan dros reilffordd

Gweithredwr y rheilffordd neu’r rhwydwaith sy’n cynnwys y rheilffordd dan sylw, a Gweinidogion Cymru

 

(d)

Datblygiad sy’n debygol o achosi cynnydd materol perthnasol ym maint y traffig, neu newid materol berthnasol yng nghymeriad y traffig sy’n ymuno neu’n ymadael â ffordd ddosbarthiadol neu briffordd arfaethedig

Yr awdurdod priffyrdd lleol perthnasol

 

(e)

Datblygiad sy’n debygol o amharu ar wella neu adeiladu ffordd ddosbarthiadol neu briffordd arfaethedig

Yr awdurdod priffyrdd lleol perthnasol

 

(f)

Datblygiad sy’n cynnwys darparu adeilad neu biblinell mewn ardal o weithfeydd glo, yr hysbyswyd Gweinidogion Cymru yn ei chylch gan yr Awdurdod Glo

Yr Awdurdod Glo

 

(g)

Datblygiad sy’n cynnwys neu sy’n ymwneud â gweithrediadau mwyngloddio

Corff Adnoddau Naturiol Cymru

 

(h)

Datblygiad sy’n debygol o effeithio ar safle heneb gofrestredig

Gweinidogion Cymru

 

(i)

Datblygiad sy’n ymwneud â chyflawni gwaith neu weithrediadau ar wely neu ar lannau afon neu ffrwd

Corff Adnoddau Naturiol Cymru

 

(j)

Datblygiad at y diben o buro neu storio olewau mwynol a’u deilliadau

Corff Adnoddau Naturiol Cymru

 

(k)

Datblygiad sy’n ymwneud â defnyddio tir ar gyfer dyddodi sbwriel neu wastraff

Corff Adnoddau Naturiol Cymru

 

(l)

Datblygiad mewn perthynas â chadw, trin neu waredu carthion, gwastraff masnachol, slyri neu slwtsh (ac eithrio gosod carthffosydd, adeiladu tai pwmpio mewn llinell o garthffosydd, adeiladu tanciau carthion neu garthbyllau sy’n gwasanaethu tai annedd sengl neu garafannau sengl neu adeiladau sengl lle na fydd mwy na deg o bobl fel arfer yn preswylio, gweithio neu ymgynnull, a gwaith sy’n ategol i hynny)

Corff Adnoddau Naturiol Cymru

 

(m)

Datblygiad sy’n effeithio ar ddefnyddio tir fel mynwent

Corff Adnoddau Naturiol Cymru

 

(n)

Datblygiad sydd—
(i) mewn neu’n debygol o effeithio ar safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig; neu
(ii) mewn ardal yr hysbyswyd Gweinidogion Cymru yn ei chylch gan Gorff Adnoddau Naturiol Cymru ac sydd o fewn dau gilometr i safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig y rhoddwyd hysbysiad ohoni, neu sy’n cael effaith fel pe bai hysbysiad ohoni wedi ei roi i Weinidogion Cymru gan Gorff Adnoddau Naturiol Cymru, yn unol ag adran 28 o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig)([29])

Corff Adnoddau Naturiol Cymru

 

(o)

Datblygiad sy’n ymwneud ag unrhyw dir sydd â theatr arno.

 

Yr Ymddiriedolaeth Theatrau

 

(p)

Datblygiad nad yw at ddibenion amaethyddol, nad yw’n unol â darpariaethau cynllun datblygu, ac sy’n golygu—

(i) colli dim llai nag 20 hectar o dir amaethyddol graddau 1, 2 neu 3a a ddefnyddir ar y pryd (neu a ddefnyddiwyd diwethaf) at ddibenion amaethyddol; neu
(ii) colli llai nag 20 hectar o dir amaethyddol graddau 1, 2 neu 3a a ddefnyddir ar y pryd (neu a ddefnyddiwyd diwethaf) at ddibenion amaethyddol, mewn amgylchiadau pan fo’r datblygiad yn debygol o arwain at golled bellach o dir amaethyddol a fyddai’n peri bod y golled gronnus o dir amaethyddol yn 20 hectar neu’n fwy.

Gweinidogion Cymru

 

(q)

Datblygiad sydd o fewn 250 metr i dir—
(i) a ddefnyddir, neu sydd wedi ei ddefnyddio ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod o 30 mlynedd cyn y cais perthnasol, ar gyfer dyddodi sbwriel neu wastraff ; a
(ii) yr hysbyswyd Gweinidogion Cymru yn ei gylch gan Gorff Adnoddau Naturiol Cymru at ddibenion y ddarpariaeth hon

Corff Adnoddau Naturiol Cymru

 

(r)

Datblygiad—
(i) sy’n debygol o amharu ar ddefnyddio tir, neu arwain at golli’r defnydd o dir, a ddefnyddir fel maes chwarae; neu
(ii) sydd ar dir—

(aa) a ddefnyddiwyd fel maes chwarae ar unrhyw adeg yn ystod y 5 mlynedd cyn gwneud y cais perthnasol ac sy’n parhau heb ei ddatblygu; neu
(bb) a ddyrannwyd ar gyfer ei ddefnyddio fel maes chwarae mewn cynllun datblygu neu mewn cynigion ar gyfer cynllun o’r fath neu ar gyfer ei addasu neu ei amnewid; neu

(iii) sy’n golygu gosod arwyneb artiffisial, arwyneb o wneuthuriad dynol neu arwyneb cyfansawdd ar lain chwarae ar faes chwarae yn lle arwyneb o laswellt

Cyngor Chwaraeon Cymru([30])

 

(s)

Datblygiad sy’n debygol o effeithio ar—
(i) unrhyw ddyfrffordd fewndirol (boed naturiol neu artiffisial) neu gronfa ddŵr sy’n eiddo i’r Canal & River Trust neu a reolir ganddi; neu
(ii) unrhyw sianel gyflenwi, cwrs dŵr, dihangfa dŵr neu gwlfert ar gyfer camlas, sydd o fewn ardal yr hysbyswyd Gweinidogion Cymru yn ei chylch at ddibenion y ddarpariaeth hon gan yr Canal & River Trust

The Canal & River Trust

 

(t)

Datblygiad—

(i) sy’n ymwneud â lleoli sefydliadau newydd;

(ii) sy’n cynnwys addasiadau i sefydliadau presennol sydd o fewn cwmpas Erthygl 11 o Gyfarwyddeb 2012/18/EU([31]); neu

(iii) sydd yn newydd, gan gynnwys llwybrau trafnidiaeth, lleoliadau a ddefnyddir gan y cyhoedd ac ardaloedd preswyl yng nghyffiniau sefydliadau presennol, lle y gallai lleoli neu ddatblygu achosi neu gynyddu’r risg o ddamwain fawr, neu ychwanegu at ganlyniadau damwain fawr.

(a) Yr awdurdod cymwys rheoli peryglon damweiniau mawr ; a

(b) mewn perthynas â datblygiad sy’n dod o fewn paragraff (iii), unrhyw berson sy’n berson â rheolaeth o’r tir y lleolir arno unrhyw sefydliad presennol dan sylw, naill ai—

(i) yn ôl y gofrestr a gedwir gan yr awdurdod sylweddau peryglus o dan reoliad 22 o Reoliadau Cynllunio (Sylweddau Peryglus) (Cymru) 2015([32]); neu

(ii) pan fo’r awdurdod cymwys rheoli peryglon damweiniau mawr wedi hysbysu’r awdurdod cynllunio lleol yn unol â rheoliad 34(3)o’r Rheoliadau hynny

 

Dehongli’r Tabl

Yn y Tabl uchod—

(a)     ym mharagraffau (a) a (b)—

ystyr “arwynebedd llawr” (“floor space”) yw cyfanswm yr arwynebedd llawr mewn adeilad neu adeiladau;

ystyr “proses ddiwydiannol” (“industrial process”) yw proses sydd ar gyfer neu sy’n ategu unrhyw un o’r dibenion canlynol—

                           (i)    gwneud unrhyw wrthrych neu ran o unrhyw wrthrych (gan gynnwys llong neu gwch, neu ffilm, fideo neu recordiad sain);

                         (ii)    newid, atgyweirio, cynnal, addurno, gorffen, glanhau, golchi, pacio, canio, addasu ar gyfer gwerthu, datgymalu neu ddymchwel unrhyw wrthrych; neu

                       (iii)    cael, naddu neu drin mwynau yng nghwrs unrhyw fasnach neu fusnes ac eithrio amaethyddiaeth, a chan eithrio proses a gyflawnir ar dir a ddefnyddir fel mwynglawdd, neu sy’n cydffinio ac yn cael ei feddiannu ar y cyd â mwynglawdd (ac yn yr is-baragraff hwn, ystyr “mwynglawdd” (“mine”) yw unrhyw safle y cyflawnir gweithrediadau mwyngloddio ynddo);

ystyr “safle niwclear perthnasol” (“relevant nuclear site”) yw safle sydd yn—

                           (i)    safle niwclear Prydain Fawr (o fewn yr ystyr a roddir i “GB nuclear site” gan adran 68 o Ddeddf Ynni 2013)([33]);

                         (ii)    safle amddiffyn awdurdodedig ( yn yr ystyr a roddir i “authorised defence site” gan reoliad 2(1) o Reoliadau Iechyd a Diogelwch (Awdurdod Gorfodi)1998([34])); neu

                       (iii)    safle niwclear newydd-adeiledig (yn yr ystyr a roddir i “new nuclear build site” gan reoliad 2A(1) o’r Rheoliadau hynny)([35]).

(b)     ym mharagraff (c), mae i “rhwydwaith” a “gweithredwr”, yn eu trefn, yr ystyron a roddir i “network” ac i “operator” yn adran 83(1) o Ddeddf Rheilffyrdd 1993 (darparu gwasanaethau rheilffordd)([36]);

(c)     ym mharagraffau (d) ac (e), ystyr “ffordd ddosbarthiadol” (“classified road”) yw priffordd neu briffordd arfaethedig sydd—

                           (i)    yn ffordd ddosbarthiadol neu’n brif ffordd yn yr ystyr, yn eu trefn, o “classified road” neu “principal road” at ddibenion adran 12(1) o Ddeddf Priffyrdd 1980 (darpariaeth gyffredinol o ran prif ffyrdd a ffyrdd dosbarthiadol)([37]); neu

                         (ii)    yn ddosbarthiadol at ddibenion unrhyw ddeddfiad gan Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 12(3) o’r Ddeddf honno;

(d)     ym mharagraff (h), mae i “heneb gofrestredig” yr ystyr a roddir i “scheduled monument” gan adran 1(11) Ddeddf Henebion a Mannau Archeolegol 1979 (rhestr o henebion)([38]);

(e)      ym mharagraff (l)—

nid yw “tŷ annedd” (“dwellinghouse”) yn cynnwys adeilad ag ynddo un neu ragor o fflatiau, nac ychwaith fflat sy’n gynwysedig mewn adeilad o’r fath (ac yn y paragraff hwn, ystyr “fflat” (“flat”) yw set o fangreoedd arwahanol ac annibynnol a adeiladwyd neu a addaswyd at y diben o breswylio ac yn ffurfio rhan o adeilad, ac wedi ei rhannu yn llorweddol oddi wrth ran arall o’r adeilad;

ystyr “slyri” (“slurry”) yw carthion a throeth anifeiliaid (pa un a ychwanegwyd dŵr ai peidio ar gyfer ei drin); ac

mae i “carafán” yr ystyr a roddir i “caravan” gan adran 29(1) o Ddeddf Safleoedd Carafannau a Rheoli Datblygu 1960 (safleoedd carafannau)([39]);

(f)      ym mharagraff (n), ystyr “safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig” (“site of special scientific interest”) yw tir y mae adran 28(1) o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig) yn gymwys iddo;

(g)     ym mharagraff (o), mae i theatr” yr ystyr a roddir i “theatre” yn adran 5 o Ddeddf Ymddiriedolaeth Theatrau 1976 (dehongli)([40]);

(h)     ym mharagraff (r)—

                           (i)    ystyr “maes chwarae” (“playing field”) yw’r cyfan o safle sy’n cynnwys o leiaf un llain chwarae;

                         (ii)    ystyr “llain chwarae” (“playing pitch”) yw arwynebedd wedi ei amlinellu yn benodol sydd, ynghyd ag unrhyw arwynebedd ymylol, yn 0.2 hectar neu’n fwy, ac a ddefnyddir ar gyfer pêl-droed y gymdeithas, pêl-droed Americanaidd, rygbi, criced, hoci, lacrós, rownderi, pêl fas, pêl feddal, pêl-droed Awstralaidd, pêl-droed Gwyddelig, bando, hyrli, polo neu polo beic;

(i)      ym mharagraff (t)—

                           (i)    mae i’r ymadroddion sy’n ymddangos yn y paragraff hwnnw ac y mae eu cyfystyron Saesneg yn ymddangos yng Nghyfarwyddeb 2012/18/EU yr un ystyron ag y sydd i’r cyfystyron Saesneg hynny yn y Gyfarwyddeb honno; a

                         (ii)    ystyr “awdurdod cymwys rheoli peryglon damweiniau mawr” (“control of major accident hazards competent authority”) yw—

(aa)        mewn perthynas â safle niwclear perthnasol, y Swyddfa Rheoleiddio Niwclear a Chorff Adnoddau Naturiol Cymru, yn gweithredu ar y cyd;

(bb)       fel arall, yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch a Chorff Adnoddau Naturiol Cymru, yn gweithredu ar y cyd.


                                             ATODLEN 6                             Erthygl 31(2)

Hysbysiad o gychwyn datblygiad ac arddangos hysbysiad

Gorchymyn Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Gweithdrefn) (Cymru) 2016

 

HYSBYSIAD O DAN ERTHYGL 31(2) SYDD I’W ROI I AWDURDOD CYNLLUNIO LLEOL I ROI GWYBOD IDDO PA BRYD Y BYDD DATBLYGIAD YN CYCHWYN

 

Datblygiad arfaethedig yn (a) …………………………………………………………….

 

Rwyf i, (b) …………………………o………………………………………….

 

drwy hyn yn hysbysu awdurdod cynllunio lleol (c) ……………………………………………….

 

y bydd y datblygiad arfaethedig y rhoddwyd caniatâd cynllunio ar ei gyfer o dan (d) …………………………

 

ar (e) ………………………………………………………………………………………….

 

yn cychwyn ar (f) …………………………………………………………………………

 

Disgrifiad o’r datblygiad arfaethedig: (g)

 

…………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………

 

Rwyf yn cadarnhau mai myfi+ yw perchennog y tir y mae’r datblygiad arfaethedig yn ymwneud ag ef*

 

Rwyf yn cadarnhau nad myfi+ yw perchennog y tir y mae’r datblygiad arfaethedig yn ymwneud ag ef ac mai enw llawn a chyfeiriad y perchennog yw:*

 

(h) ………………………………………………………………………………………………

 

(i) ………………………………………………………………………………………………

 

Enw rheolwr y safle: (j)……………………………………………………………………….

 

Manylion cyswllt rheolwr y safle: (k)…………………………………………………….

 

                                                             ………………………………………………………….

 

                                                             ………………………………………………………….

 

                                                             ………………………………………………………….

Rwyf yn cadarnhau bod yr amodau cyn cychwyn canlynol wedi eu bodloni (l):

 

Cyfeirnod caniatâd……………….Rhif yr amod:…………Dyddiad y’i cytunwyd……….

 

Cyfeirnod caniatâd……………….Rhif yr amod:…………Dyddiad y’i cytunwyd……….

 

Cyfeirnod caniatâd……………….Rhif yr amod:…………Dyddiad y’i cytunwyd……….

 

Cyfeirnod caniatâd……………….Rhif yr amod:…………Dyddiad y’i cytunwyd……….

 

Cyfeirnod caniatâd……………….Rhif yr amod:…………Dyddiad y’i cytunwyd……….

 

Cyfeirnod caniatâd……………….Rhif yr amod:…………Dyddiad y’i cytunwyd……….

 

Cyfeirnod caniatâd……………….Rhif yr amod:…………Dyddiad y’i cytunwyd……….

 

Cyfeirnod caniatâd……………….Rhif yr amod:…………Dyddiad y’i cytunwyd……….

 

 

Os oes angen, parhewch ar ddalen ar wahân

 

 

 

Rwyf yn atodi plan sy’n dangos:

 

-       Llinell goch o amgylch ffin y tir sy’n cael budd o’r caniatâd

-       Y man lle’r arddangosir yr hysbysiad sy’n ofynnol gan adran 71ZB(2) o ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.

 

 

Cyn cychwyn unrhyw ddatblygiad mewn perthynas â chaniatâd cynllunio a roddwyd ar gyfer datblygiad o arwyddocâd cenedlaethol, rhaid i berson roi hysbysiad i’r awdurdod cynllunio lleol ar y ffurflen hon

 

Rhaid i berson sy’n cyflawni’r gwaith datblygu mewn perthynas â chaniatâd cynllunio a roddwyd ar gyfer datblygiad o arwyddocâd cenedlaethol lenwi’r ffurflen sydd yn Atodlen 7 i Orchymyn Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Gweithdrefn) (Cymru) 2016, ac arddangos y ffurflen honno ar neu gerllaw’r man y cyflawnir y datblygiad drwy gydol yr amser tra cyflawnir y datblygiad. Rhaid arddangos y ffurflen honno yn unol ag erthygl 31(3) o Orchymyn Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Gweithdrefn) (Cymru) 2016

 

 

 

Llofnod ………………………………………………………….

 

Dyddiad ………………………………………………………….

 

 

+ sef y ceisydd a enwir yn (b)

* dileer fel sy’n briodol

 

 

Mewnosoder:

 

a) cyfeiriad neu leoliad y datblygiad arfaethedig

b) enw a chyfeiriad y ceisydd

c) enw’r awdurdod cynllunio lleol

d) rhif cyfeirnod y cais cynllunio

e) dyddiad dyroddi’r hysbysiad penderfynu

f) dyddiad cychwyn y datblygiad

g) disgrifiad o’r datblygiad fel y’i cynhwysir yn yr hysbysiad penderfynu

h) enw llawn y perchennog (os yw’n gymwys)

i) cyfeiriad llawn y perchennog (os yw’n gymwys)

j) enw’r person a benodwyd neu sydd i’w benodi i oruchwylio cyflawni’r datblygiad ar y safle

k) manylion cyswllt ar gyfer y person (j) gan gynnwys, pan fo’n briodol, cyfeiriadau post ac e-bost busnes a rhif teleffon

l) yr amodau cyn cychwyn yw’r rhai y mae’n ofynnol cael eu manylion wedi eu cymeradwyo gan yr awdurdod cynllunio lleol cyn y caniateir i’r datblygiad gychwyn


 

                                             ATODLEN 7                             Erthygl 31(3)

Hysbysiad i’w arddangos drwy gydol yr amser tra cyflawnir y datblygiad

 

 

Gorchymyn Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Gweithdrefn) (Cymru) 2016

 

HYSBYSIAD O DAN ERTHYGL 31(3) SYDD I’W ARDDANGOS DRWY GYDOL YR AMSER TRA CYFLAWNIR Y DATBLYGIAD

RHAN 1

Datblygiad yn (a)…….……………………………………………………………………………….

Hysbysir drwy hyn fod caniatâd cynllunio (b)……………………………………………………

wedi ei roi yn ddarostyngedig i amodau (c) i (d)………….…………………………………………………

ar (e)…….…………………………………………………………………………………………….

gan (f)…….…………………………………………………….ac mae’r datblygu bellach wedi cychwyn.

Mae’r datblygiad yn cynnwys (g)…….……………………………………………………………………. a dangosir ef fel yr ardal sydd wedi ei hamlinellu/lliwio ar y plan a atodir. Mae’r plan wedi ei luniadu yn unol â’r raddfa a nodir arno, ac mae’n ffurfio, ac yn cael ei arddangos fel, RHAN 2 o’r hysbysiad hwn.

Gellir cael gwybodaeth bellach am y caniatâd cynllunio, gan gynnwys yr amodau, os oes rhai, y rhoddwyd y caniatâd yn ddarostyngedig iddynt, yn ystod unrhyw oriau rhesymol yn (h)…….……………………

Rhaid i berson sy’n cyflawni datblygu mewn perthynas â chaniatâd cynllunio a roddwyd ar gyfer datblygiad o arwyddocâd cenedlaethol arddangos y ffurflen hon yn y man y cyflawnir y datblygu neu gerllaw iddo, drwy gydol yr amser tra cyflawnir y datblygu. Rhaid arddangos y ffurflen yn unol ag erthygl 31(3) o Orchymyn Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Gweithdrefn) (Cymru) 2016.

Cyn cychwyn datblygiad mewn perthynas â chaniatâd cynllunio a roddwyd ar gyfer datblygiad o arwyddocâd cenedlaethol, rhaid i berson roi hysbysiad i’r awdurdod cynllunio lleol ar y ffurflen yn Atodlen 6 i Orchymyn Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Gweithdrefn) (Cymru) 2016.

 

Nodiadau

a) Mewnosoder cyfeiriad neu ddisgrifiad o leoliad y datblygiad.

b) Mewnosoder rhif cyfeirnod y cais cynllunio perthnasol.

c) Dileer “yn ddarostyngedig i amodau” os nad yw’r caniatâd cynllunio yn ddarostyngedig i unrhyw amodau.

d) Mewnosoder enw a chyfeiriad y datblygwr.

e) Mewnosoder y dyddiad y rhoddwyd caniatâd cynllunio.

f) Mewnosoder yr awdurdod cynllunio neu Weinidogion Cymru.

g) Mewnosoder disgrifiad o’r datblygiad.

h) Mewnosoder cyfeiriad yr awdurdod cynllunio lleol.

 



([1])   Gweler adran 62D(3) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (p. 8) a Rheoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Meini Prawf Penodedig a Chydsyniadau Eilaidd Rhagnodedig) (Cymru) 2016 (O.S. 2016/53) (Cy. 23) (“Rheoliadau Meini Prawf Penodedig a Chydsyniadau Eilaidd Rhagnodedig”).

([2])   Gweler adran 62D(4) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.

([3])   1990 p. 8; Diwygiwyd adran 59 gan adran 27 ac adran 55 o Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015 (dccc. 4) (“Deddf 2015”), a pharagraff 3 o Atodlen 4 a pharagraff 5 o Atodlen 7 i’r Ddeddf honno. Gwnaed diwygiadau eraill nad ydynt yn berthnasol i’r offeryn hwn.

([4])   Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672); gweler y cofnod yn Atodlen 1 ar gyfer Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (“Deddf 1990”). Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraffau 30 a 32 o Atodlen 11 i’r Ddeddf honno.

([5])   Amnewidiwyd adran 62 gan adran 42(1) o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (p. 5) (“Deddf 2004”), diwygiwyd hi gan adran 17 o Ddeddf 2015 a chymhwyswyd hi gydag addasiadau gan erthygl 3(1) o Orchymyn Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Cymhwyso Deddfiadau) (Cymru) 2016 (O.S. 2016/54) (Cy. 24) (“y Gorchymyn Cymhwyso Deddfiadau”). Amnewidiwyd adran 65 gan adran 16(1) o Ddeddf Cynllunio a Digolledu 1991 (p. 34) (“Deddf 1991”), diwygiwyd hi gan adran 40 o Ddeddf Tenantiaethau Amaethyddol 1995 (p. 8), a pharagraff 35 o’r Atodlen i’r Ddeddf honno, a chymhwyswyd hi gydag addasiadau gan erthygl 3(1) o’r Gorchymyn Cymhwyso Deddfiadau. Amnewidiwyd adran 69 gan adran 118 o Ddeddf 2004 a pharagraffau 1 a 3 Atodlen 6 i’r Ddeddf honno, a diwygiwyd hi gan adran 190(4)(b) ac (c) o Ddeddf Cynllunio 2008 (p. 29) (“Deddf 2008”) ac adran 237 o Ddeddf Lleoliaeth 2011 (p. 20), a Rhan 18 o Atodlen 25 i’r Ddeddf honno; (gweler adran 69(9) am y diffiniad o “prescribed”). Diwygiwyd adran 71 gan adran 16(2) o Ddeddf 1991 a pharagraff 15 of Atodlen 7 iddi (gweler adran 71(4) am y diffiniad o “prescribed”) ac adran 58(1) o Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 (dccc. 6) a pharagraff 6 o Atodlen 4 i’r Ddeddf honno, a chymhwyswyd hi gydag addasiadau gan erthygl 3(1) o’r Gorchymyn Cymhwyso Deddfiadau. Gwnaed diwygiadau eraill i’r adrannau hyn, nad ydynt yn berthnasol i’r offeryn hwn.

([6])   O.S. 2016/54 (Cy.24).

([7])   Mewnosodwyd adran 61Z gan adran 17(3) o Ddeddf 2015. Mewnosodwyd adran 62E gan adran 19 o Ddeddf 2015. Mewnosodwyd adrannau 62I, 62J a 62K gan adran 21 o Ddeddf 2015. Mewnosodwyd adran 62L gan adran 22 o Ddeddf 2015. Mewnosodwyd adran 62R gan adran 25 o Ddeddf 2015. Mewnosodwyd adran 71ZA gan adran 33 o Ddeddf 2015. Mewnosodwyd adran 71ZB gan adran 34 o Ddeddf 2015. Diwygiwyd adran 333 gan adran 78 o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (p. 25), a pharagraff 32(12) o Atodlen 10 i’r Ddeddf honno, adran 118(1) o Ddeddf 2004 a pharagraffau 1 a 4 o Atodlen 6 iddi, O.S. 2014/2773 (Cy. 280) ac adran 55 o Ddeddf 2015 a pharagraffau 3 a 6 o Atodlen 7 iddi.

([8])   2004 p. 5.

([9])   Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraffau 30 a 32 o Atodlen 11 i’r Ddeddf honno.

([10]) Mewnosodwyd adran 62D gan adran 19 o Ddeddf 2015.

([11]) Ystyr “gorchymyn datblygu arbennig” (“special development order”) yw gorchymyn o dan adran 59(3)(b) o Ddeddf 1990.

([12]) 2000 p. 7; diwygiwyd adran 15(1) gan adran 406(1) o Ddeddf Cyfathrebu 2003 (p. 21) a pharagraff 158 o Atodlen 17 i’r Ddeddf honno.

([13]) O.S. 2012/801 (Cy. 110).

([14]) O.S. 2016/54 (Cy.24).

([15]) O.S. 2016/58 (Cy.28).

([16]) Ar gyfer y diffiniad o “development” (“datblygiad”) gweler adran 55 o Ddeddf 1990. Gweler hefyd reoliad 56 o Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effaith Amgylcheddol) (Cymru) 2016 (O.S. 2016/58) (Cy.28).

([17]) Gweler adran 62D(3) o Ddeddf 1990 a’r Rheoliadau Meini Prawf Penodedig a Chydsyniadau Eilaidd Rhagnodedig.

([18]) Cymhwyswyd adran 62(3) gydag addasiadau gan erthygl 3(1) of o’r Gorchymyn Cymhwyso Deddfiadau.

([19]) Ar gyfer y diffiniad o “secondary consent” (“cydsyniad eilaidd”) gweler adran 62H o Ddeddf 1990. Mewnosodwyd adran 62H gan adran 20 o Ddeddf 2015. Rhagnodir cydsyniadau eilaidd at ddibenion adran 62H(1) gan y Rheoliadau Meini Prawf Penodedig a Chydsyniadau Eilaidd Rhagnodedig.

([20]) Gweler adran 62F(6) o Ddeddf 1990. Mewnosodwyd adran 62F gan adran 20 o Ddeddf 2015.

([21]) Gweler adran 62G(2) o Ddeddf 1990 ar gyfer ystyr “relevant person” (“person perthnasol”). Mewnosodwyd adran 62G gan adran 20 o Ddeddf 2015.

([22]) Diwygiwyd adran 73 gan adrannau 42(2), 51(3) a 120 o Ddeddf 2004 ac Atodlen 9 i’r Ddeddf honno ac adran 35(7) o Ddeddf 2015, a chymhwyswyd hi gydag addasiadau gan erthygl 3(1) o’r Gorchymyn Cymhwyso Deddfiadau. Y ceisiadau a wneir yn unol ag adran 73 sydd i’w trin fel datblygiad o arwyddocâd cenedlaethol yn unol ag adran 62D(6) o Ddeddf 1990 yw’r rhai sydd o ddisgrifiad a bennir yn rheoliad 51 o Reoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Cymru) 2016 (O.S. 2016/56) (Cy. 26).

([23]) Amnewidiwyd adran 106 gan adran 12(1) o Ddeddf 1991 a diwygiwyd hi gan adran 174(2) o Ddeddf 2008 ac adran 7 o Ddeddf Twf a Seilwaith 2013 (p. 27), a pharagraff 3 o Atodlen 2 i’r Ddeddf honno.

([24]) Ar gyfer y diffiniad o “mineral-working deposit” gweler adran 336 o Ddeddf 1990.

([25]) Gweler adrannau 38 a 62 o Ddeddf 2004.

([26]) O.S. 2016/56 (Cy.26).

([27]) Gweler adran 62I(5) o Ddeddf 1990 ar gyfer ystyr “relevant local planning authority” (“awdurdod cynllunio lleol perthnasol”) at ddibenion 62I(2).

([28]) Gweler rheoliadau 10(9) a 12(8) o Reoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Ffioedd) (Cymru) 2016 (O.S. 2016/58) (Cy.28) ynglŷn â thybio bod ceisiadau wedi eu tynnu’n ôl.

([29]) 1981 (p. 69); gweler adran 27AA o’r Ddeddf honno. Amnewidiwyd adran 28 gan adran 75(1) o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (p. 37) a pharagraff 1 o Atodlen 9 i’r Ddeddf honno, a diwygiwyd hi gan adran 148 o Ddeddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009 (p. 23) a pharagraffau 2(2), (3) a (7) o Atodlen 13 i’r Ddeddf honno. Gwnaed diwygiadau eraill nad ydynt yn berthnasol i’r offeryn hwn.

([30]) Adwaenir Cyngor Chwaraeon Cymru fel Chwaraeon Cymru.

([31]) O.J. L 197, 24.7.2012, t. 1.

([32]) O.S. 2015/1597 (Cy.196).

([33]) 2013 p. 32.

([34]) O.S. 1998/494; Mewnosodwyd y diffiniad o “authorised defence site” gan erthygl 6(2) o Orchymyn Deddf Ynni 2013 (Swyddfa Rheoleiddio Niwclear) (Diwygiadau Canlyniadol, Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion) 2014 (O.S. 2014/469) a pharagraffau 70 a 72(a) o Atodlen 3 i’r Gorchymyn hwnnw.

([35]) Mewnosodwyd rheoliad 2A gan erthygl 6(2) o’r Gorchymyn hwnnw a pharagraffau 70 a 73 o Atodlen 3 iddo.

([36]) 1993 p. 43; Gwnaed diwygiadau i adran 83 nad ydynt yn berthnasol i’r offeryn hwn.

([37]) 1980 p. 66.

([38]) 1979 p. 46.

([39]) 1960 p. 62; Gwnaed diwygiadau i adran 29 nad ydynt yn berthnasol i’r offeryn hwn.

([40]) 1976 p. 27.